Mae hi’n “anodd deall sut yn hollol bod cyfiawnhad” dros arestio ymgyrchwyr sydd wedi bod yn gwrthwynebu’r frenhiniaeth, yn ôl cyfreithiwr blaenllaw.
Ers marwolaeth Elizabeth II, mae llond llaw o bobol wedi cael eu harestio neu eu cwestiynu gan yr heddlu am ddatgan eu barn yn erbyn y frenhiniaeth.
Yn ôl yr Athro Emyr Lewis, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth, mae hi’n anodd gweld bod trosedd wedi’i chyflawni yn yr achosion hyd yn hyn.
Cafodd ymgyrchydd yn Rhydychen ei arestio am weiddi ‘Pwy wnaeth ei ethol?’ yn ystod seremoni i gyhoeddi Charles fel y brenin newydd.
Yn Llundain, cafodd dynes yn dal arwydd yn dweud ‘Nid fy mrenin i’ ei hebrwng oddi wrth giatiau San Steffan gan yr heddlu.
A chafodd cyfreithiwr ei gwestiynu tu allan i San Steffan ddoe (dydd Llun, Medi 12) am gario darn o bapur gwag gyda’r bwriad o ysgrifennu ‘Nid fy mrenin i’ arno. Mewn clip fideo, mae’n bosib clywed heddwas yn dweud “y gallai dramgwyddo rhwyun” pe bai’n ysgrifennu’r geiriau.
‘Tensiwn yn y gyfraith’
Wrth egluro’r sefyllfa, dywedodd Emyr Lewis wrth golwg360 fod yna densiwn bob amser oddi fewn i’r gyfraith rhwng rhyddid mynegiant a’r posibilrwydd bod mynegi rhywbeth yn medru bod yn niweidiol mewn rhyw ffordd.
“Pan rydyn ni’n sôn am sefyllfaoedd fel hyn lle mae pobol yn lleisio barn mewn lle cyhoeddus mae’r gyfraith yn gosod rhai amodau lle, os ydych chi’n mynd tu hwnt i ryw bwynt, mae hynny wedyn yn anghyfreithlon,” eglura.
“Rydyn ni’n gyfarwydd iawn â’r syniad, er enghraifft, os ydych chi’n lleisio barn ymosodol a hiliol tuag at bobol, y gall hynny fod yn drosedd.
“Ond yn y fan yma, be rydyn ni’n sôn amdano, hyd y gwela i beth bynnag, ydy pobol yn mynegi eu barn ynglŷn â chyfansoddiad y Deyrnas Gyfunol a materion yn ymwneud â phriodoldeb, neu diffyg priodoldeb, llywodraethu drwy gyfrwng brenin neu frrenhines.
“Mae hwn yn fater o ddatgan barn wleidyddol, felly ar yr olwg gyntaf fyddech chi’n dweud y dylid bod rhyddid i unrhyw un ddatgan barn wleidyddol, barn grefyddol, barn athronyddol.
“Be’ sy’n bwrw’n groes i hynny yn y cyd-destun yma ydy, gallasai eich bod chi’n mynegi barn mewn ffordd sy’n creu niwed ac efallai yn annog trais.
“Ond ar y cyfan, yn y cyd-destun yma, dydyn ni ddim yn sôn am rywbeth sy’n annog trais neu sy’n debygol o arwain at drais.”
Codi braw
Dan Adran 5 Deddf Trefn Gyhoeddus 1986, mae hi’n drosedd defyddio “geiriau ymosodol neu sarhaus, neu ddangos arwydd ymosodol neu sarhaus, o fewn clyw neu o fewn golwg person sy’n debygol o ddioddef, yn Saesneg, ‘harrassment, alarm or distress’,” eglura Emyr Lewis.
“Os oes yna rywun sy’n debygol o ddioddef gofid oherwydd eich bod chi’n dweud ‘Dw i ddim eisiau brenin’, yna mae hi’n drosedd ar yr olwg gyntaf. Ond tasa hynny’n wir, yn gyffredinol, fysa bron â bod unrhyw farn [yn drosedd].
“Dywedwch rŵan fy mod i o blaid gosod treth wyliau yng Nghymru, a bod rhywun sy’n berchennog gwesty yn profi ofn neu braw oherwydd fy mod i’n mynegi hynny – wel go brin y byddech chi’n dweud ‘Emyr, rydych chi’n euog o drosedd’.
“Yr un modd dw i’n gweld hi efo beth sydd wedi bod yn digwydd efo’r protestiadau gwrth-frenhinol yma.
“Drwy drugaredd, mae yna amddiffyniadau i’w cael ar gyfer y drosedd yma. Yr amddiffyniad mwyaf cryf ydy dy fod ti’n medru profi bod dy weithred di’n un resymol. Ond mae’n rhaid i’r geiriau yn y lle cyntaf fod yn rhai ymosodol neu sarhaus.”
Tarfu ar yr heddwch
Cysyniad arall yw tarfu ar yr heddwch, cysyniad sy’n rhan o’r gyfraith gyffredin yn hytrach nag un sy’n deillio o ddeddf.
“Yn sylfaenol, os oes yna rywun yn tarfu ar yr heddwch mae’n gallu cael ei arestio,” meddai Emyr Lewis.
“Fe ellid dadlau mewn, rhai sefyllfaoedd, os ydych chi’n mynegi safbwynt gwleidyddol neu grefyddol mewn ffordd danbaid bod yna beryg wedyn bod yna rywun yn ymddwyn mewn modd treisiol o ganlyniad i hynny – hyd yn oed os nad ydych chi’n bwriadu ymddwyn yn dreisgar.
“Fyswn i’n tybio bod yna rai mannau yng Ngogledd Iwerddon y bysech chi’n mynd iddyn nhw a mynegi yn gryf eich gwrthwynebiad i’r Pab a phopeth mae’n ei wneud, y byddai hynny’n golygu bod yna berygl, efallai, y byddai rhywun yn ymosod arnoch chi.
“Mewn amgylchiadau mor eithriadol â hynny, fe allai’r heddlu eich arestio chi er mwyn stopio y ffrwgwd rhag codi.
“Ond mae’r rheiny yn achosion eithriadol iawn.”
‘Anodd deall sut bod cyfiawnhad’
Wrth ystyried yr achosion o arestio sydd wedi digwydd hyd yn hyn, mae Emyr Lewis yn ei gweld hi’n anodd eu cyfiawnhau.
“Oes yna yr achosion yma unrhyw eiriau neu ddangos arwyddion sy’n ymosodol neu sarhaus? Dydw i ddim yn gyfarwydd â manylion yr holl beth, ond yn sicr fyddai rhywbeth fel ‘Nid fy mrenin i’ neu ‘Gadewch i ni gael Gweriniaeth’ – dydy’r rheiny ddim ym ymosodol na’n sarhaus. Maen nhw’n fynegiant o safbwynt gwleidyddol.
“Hyd yn oed tasen nhw’n ymosodol neu sarhaus, mae yna ddadl gref dros ddweud bod yr ymddygiad yn rhesymol oherwydd ei fod yn fynegiant o safbwynt gwleidyddol dilys. Yn fy marn i, does yna ddim trosedd wedi’i chyflawni.
“Y cwestiwn nesaf – oes yna darfu ar yr heddwch i’r fath raddau bod yna gyfiawnhad dros arestio? Fyddech chi’n dweud, pan mae gennych chi nifer fawr o bobol sydd wedi dod ynghyd er mwyn cydymdeimlo â’r brenin newydd yn ei alar ac er mwyn galaru eu hunain, y byddai mynegi gwrthwynebiad i hynny yn golygu, er nad ydych chi’n gwneud hynny mewn ffordd dreisgar, eich bod chi mewn perygl o greu terfysg, o ysgogi ar darfu ar yr heddwch.
“Ond dydy hynny heb ddigwydd.
“Unwaith eto, mae hi’n anodd deall sut yn hollol bod cyfiawnhad arestio pobol yn y cyd-destun yma.”
Goblygiadau pellach
Yn ôl Arfon Jones, cyn-Gomisiynydd Heddlu’r Gogledd, gallai’r sefyllfa gael effaith ar unrhyw brotestiadau fydd yn cael eu cynnal i wrthwynebu William yn Dywysog Cymru, ac mae’n dweud bod y Wladwriaeth Brydeinig “yn trio gosod gwerthoedd y sefydliad Prydeinig a’r Wladwriaeth Brydeinig ar eu pobol, yn lle bod gan bobol yr hawl i benderfybnu dros eu hunain os ydyn nhw yn gefnogol”.
Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd yna seremoni Arwisgo fel gafodd ei dad yn 1969, ac mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn mynnu mai’r Senedd ddylai benderfynu ar y mater yng Nghymru.
Yn ôl Arfon Jones, mewn sefyllfa o’r fath, fe fyddai’n “gwneud mwy o synnwyr” pe bai’r heddlu’n defnyddio’u disgresiwn wrth blismona’r fath ddigwyddiad neu maen nhw mewn perygl o “godi nyth cacwn arall”.
“Dw i’n meddwl fod yna dipyn mwy o sylw yn mynd i fod i Ddiwrnod Owain Glyndŵr o hyn ymlaen, yn enwedig tra bod y brenin a’r prif weinidog yn dod i Gymru ar Fedi 16, sydd eto fatha bo nhw’n mynd allan o’u ffordd i gorddi’r dyfroedd ac i droi pobol yn eu herbyn nhw,” meddai wrth golwg360.
Pe bai protestiadau’n cael eu cynnal yn erbyn ymweliadau brenhinol neu rali annibyniaeth, er enghraifft, o ganlyniad i’r Arwisgo yna mae Arfon Jones yn tybio y byddai arestio unrhyw un yn dibynnu ar yr hyn y bydden nhw’n ei ddweud neu’n ei ysgrifennu ar arwyddion neu blacardiau.
“Os ydi o’n debyg i be’ oedd ar y poster yng Nghaeredin, lle gafodd y ferch ei harestio a lle ddaru’r dyn ddweud ‘Pwy oedd wedi ethol y brenin?’ a hyn i gyd, wedyn mae’n dibynnu beth yn union sydd wedi’i sgwennu ar y posteri yma.
“Os ydi o’n dweud rhywbeth fel ‘Nid fy mrenin i’, dw i’n meddwl hwyrach fod yna siawns fysa’r person yn cael ei arestio.
“Dw i’n meddwl mai trist fysa’r sefyllfa os fysa’r heddlu ddim yn defnyddio’u disgresiwn yn y sefyllfa yna.
“Rhydd i bawb ei farn, fel rydan ni’n ei ddweud yng Nghymru.”
Gwahaniaethu
Yn ôl Arfon Jones, wrth blismona’r sefyllfa mae’n rhaid gwahaniaethu rhwng digwyddiadau’n ymwneud â marwolaeth y Frenhines a’r gwrthwynebiad i Charles fel brenin.
“Dw i’n meddwl bod y ddau beth yn wahanol,” meddai.
“Dw i’n meddwl fod yna neb sydd ddim yn cydymdeimlo efo’r teulu brenhinol yn eu colled, ond dw i’n meddwl bod y ffordd mae’r brenin wedi ymddwyn ers pan fod hyn wedi digwydd a’r pethau mae o wedi’u dweud wedi corddi pobol, ac mi ddylsen nhw fod wedi meddwl trwy hyn yn well.
“Dydy hi ddim yn drosedd i fod yn weriniaethwr, a does dim byd i ddweud bod rhaid bod yn gefnogol i’r Frenhiniaeth.”