Mae cais i gael cydnabyddiaeth i Benrhyn Gŵr fel lle sydd â golygfa drawiadol o awyr dywyll yn cael ei drefnu’n derfynol.

Bydd swyddogion Cyngor Abertawe’n anfon y cais i sefydliad o’r enw’r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol (International Dark-Sky Association), a phe bai’n llwyddiannus, byddai Penrhyn Gŵyr yn enill statws “cymunedau awyr dywyll rhyngwladol” fel un o ddim ond pump o leoliadau awyr dywyll.

Byddai hyn yn dangos bod gan yr ardal ganllawiau perthnasol ynghylch golau awyr agored a’i bod yn gwneud ymdrech i addysgu pobol am bwysigrwydd awyr dywyll.

Y gobaith yw y byddai’r dyfarniad yn rhoi hwb ychwanegol i apêl yr ardal o harddwch naturiol eithriadol o ran twristiaeth.

Mae Cymdeithas Gŵyr, y grŵp cadwraeth, yn dweud eu bod nhw wedi ariannu’n rhannol astudiaeth ddichonolrwydd ynghylch awyr dywyll flynyddoedd yn ôl, a’u bod nhw’n awyddus i wybod sut mae’r broses ymgeisio’n dod yn ei blaen.

“Mae Cyngor Abertawe wedi gwneud llawer o waith ar hyn,” meddai Gordon Howe o Gymdeithas Gŵyr.

“Maen nhw wedi cynhyrchu canllaw golau, sydd wedi cael ei gymeradwyo.”

Dywed fod awyr dywyll ochr orllewinol Penrhyn Gŵyr yn “eithaf arbennig”.

“Yn fy mhrofiad i o dwristiaeth, mae pobol wrth eu boddau’n dod i lefydd lle maen nhw’n gallu gweld y sêr,” ychwanega.

Mae’n annog busnesau i fanteisio ar gyngor swyddogion, a grantiau os ydyn nhw ar gael, i addasu eu golau allanol.

Mae’n honni bod gan ganolfan weithgareddau yn Rhosili – oedd yn arfer bod yn ysgol – bump o oleuadau allanol nad ydyn nhw’n cael eu diffodd dros nos ac yn taflu golau tua’r dwyrain.

Mwy o bobol i’r ardal?

Dywed llefarydd ar ran y Cyngor fod cais drafft i’r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol wedi cael ei rannu gyda Chymdeithas Gŵyr fis Awst y llynedd, a bod hwn bellach yn cael ei orffen cyn cael ei anfon.

Mae’r awdurdod hefyd yn troi goleuadau stryd ym Mhenrhyn Gŵyr yn unedau LED sy’n cyd-fynd ag awyr dywyll.

Yn ôl James Mead, cyd-berchennog parc carafanau a gwersylla Greenways yn Oxwich, mae ei fusnes wedi bod yn gosod goleuadau sy’n cydymffurfio dros y blynyddoedd diwethaf, ac y byddan nhw’n parhau i wneud hynny.

“Dw i’n llwyr o blaid pethau sy’n Awyr Dywyll-gyfeillgar – rydyn ni wedi bod yn gweithio tuag at hynny ers blynyddoedd,” meddai.

Ond mae’n dweud nad yw’n sicr y byddai statws cymunedau awyr dywyll o reidrwydd yn denu mwy o bobol i Benrhyn Gŵyr.

Mae gan Fannau Brycheiniog ac Eryri, yn ogystal ag Exmoor yn Nyfnaint, statws wrth gefn awyr dywyll ryngwladol, tra bod Ystâd Cwm Elan ym Mhowys yn cael ei chydnabod fel parc awyr dywyll.