Bydd adeilad Llyfrgell Dinbych yn dathlu ei ben-blwydd yn 450 oed eleni, ac fel rhan o’r dathliadau bydd yn rhan o ddigwyddiad Drysau Agored Dinbych.

Neuadd y sir a neuadd y dref oedd yr adeilad yn wreiddiol pan gafodd ei adeiladu yn 1572, yr un flwyddyn â chyhoeddi map cyntaf Humphrey Llwyd o Gymru.

Fe fydd nifer o adeiladau a chartrefi hanesyddol ar agor i’r cyhoedd yn Sir Ddinbych rhwng Medi 23 a 25, gan gynnwys Castell Dinbych a Gerddi Gwaenynog, lle cafodd Beatrix Potter ysbrydoliaeth.

Marchnad a physt o golofnau carreg dan do oedd llawr gwaelod adeilad Llyfrgell Dinbych pan gafodd ei adeiladu, gydag ystafelloedd cyngor a llys uwchben.

Yn ystod Oes Fictoria, adeiladwyr celloedd ar gyfer carcharorion oedd yn aros eu troi i fynd i wrandawiadau llys sirol, cyn i’r cyngor sir sefydlu eu hunain yno.

Meira Jones, Rheolwr Llyfrgell Dinbych

“Ym 1989 daeth yr adeilad yn llyfrgell swyddogol i’r dref, gan roi statws iddi ar ben y dref,” meddai Meira Jones, rheolwr Llyfrgell Dinbych.

“Rydym wedi bod yn ffodus yn 2018 i weld y Llyfrgell yn cael ei hadnewyddu gan gynnig y cyfleusterau modern sydd eu hangen ar bobl, diolch i grant Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru.

“Rydyn ni’n ymfalchïo bod y Llyfrgell yn ganolbwynt i bobol leol, yn cynnig ystod o wasanaethau i’n trigolion, ac yn lleoliad bywiog sy’n rhoi cyfle i blant, pobol ifanc ac oedolion ddatblygu eu mwynhad o ddarllen a benthyg llyfrau.

“Edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr i deithiau tywys o amgylch yr adeilad a’n cynorthwyo i nodi’r achlysur arbennig yma.”

Fel rhan o’r dathliadau, bydd Menter Iaith Sir Ddinbych yn cynnig gweithdai Lego i bobol ifanc yn y llyfrgell, a bydd sesiynau Cymraeg a dwyieithog yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn, Medi 24.

Eglwysi’n agor eu drysau

Bydd pymtheg o eglwysi lleol yn agor eu drysau’n ystod y penwythnos hefyd, gan gynnwys Sant Hychan yn Llanychan, San Sadwrn yn Henllan a Sant Tyrnog yn Llandyrnog.

Ymysg nifer o uchafbwyntiau pensaernïol y maes carreg hecsagon sy’n darlunio esgob yn dal gwialen i’w gweld yn Llanynys a ffenestr Jesse o’r 16eg ganrif yn cynrychioli coeden deulu’r Iesu yn Llanrhaeadr.

Yn ddiweddar, mae gwaith adnewyddu wedi dod i ben ar ffynnon Sant Dyfnog yn Llanrhaeadr.

Elfed Williams, Cadeirydd Cymdeithas Cadwraeth Llanrhaeadr yng Nghinmeirch, ac un o bontydd Ffynnon Dyfnog

Mae’r ffynnon, sy’n dyddio’n ôl i’r 6ed ganrif ac wedi’i lleoli ar dir Eglwys Sant Dyfnog, yn gartref i dair pont o’r 16eg ganrif.

Diolch i arian Cronfa Dreftadaeth y Loteri, mae’r safle wedi cael ei diogelu a llwybr wedi ei gwblhau i sicrhau gwell mynediad i’r ardal.

Meddai Elfed Williams, Cadeirydd Cymdeithas Cadwraeth Llanrhaeadr yng Nghinmeirch: “Rydym wrth ein bodd bod y gwaith wedi ei gwblhau, wedi ymgyrch deng mlynedd.

“Mae wedi bod yn llafur cariad gan dîm bychan o wirfoddolwyr a oedd yn frwd dros sicrhau arian i warchod y ffynnon hon a’r ardal o’i chwmpas.

“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pobol i weld Ffynnon Sant Dyfnog ar ei gorau.

“Mae hanes y dŵr yn cael ei briodoli â phwerau iachau ac mae yna ymdeimlad o dawelwch i’r lle.

“Rydyn ni’n edrych mlaen at rannu’r stori gydag ymwelwyr sy’n awyddus i weld y lleoliad drostynt eu hunain.”

‘Ardal gyfoethog o hanes’

Ychwanega Chris Evans, y cadeirydd sy’n arwain Drysau Agored Dinbych, eu bod nhw’n edrych ymlaen.

“Mae’n ymdrech tîm cyfan o bobl, y pwyllgor, tywyswyr a pherchnogion yn cydweithio i arddangos y gorau sydd gan Ddinbych a’r ardal gyfoethog yma o hanes a threftadaeth Gymreig, i’w chynnig,” medai.

“Mae 4.7 hectar o waliau Tref Dinbych yn rhoi cipolwg go iawn i bobl o’r dref gan gynnwys Porth Burgess, y Brodordy a Gerddi Coffa Dr Evan Pierce.

“A thu allan i’r dref mae nifer o leoliadau godidog i bobl ymweld â nhw.

“Ewch i’r wefan ac archebwch eich teithiau cyn gynted â phosibl!”