Bydd y Brenin Charles III a’r Frenhines Gydweddod Camilla yn ymweld â Chymru ar Ddiwrnod Owain Glyndŵr ddydd Gwener (Medi 16), ac mae manylion eu hymweliad wedi’u cadarnhau.

Dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ddod i Gymru ers i Dywysog Cymru ddod yn Frenin Lloegr a throsglwyddo’i rôl i’w fab William, gyda Catherine yn dod yn Dywysoges Cymru, yn dilyn marwolaeth Elizabeth II, Brenhines Lloegr.

Daw eu hymweliad ar Ddiwrnod Owain Glyndŵr, gydag ambell ddigwyddiad yng Nghymru i nodi’r diwrnod wedi’u canslo.

Yn ystod eu hymweliad, bydd y pâr yn ymweld ag Eglwys Gadeiriol Llandaf, Castell Caerdydd a’r Senedd wrth iddyn nhw ddod i Gymru ar ôl bod yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yr wythnos hon hefyd.

Yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, byddan nhw’n cael eu cyfarch gan Arglwydd Raglaw De Morgannwg ac yn cymryd rhan mewn gwasanaeth o ddiolchgarwch er cof am y Frenhines, gyda’r Deon yn arwain, ac anerchiadau a darlleniadau gan Archesgob Cymru Andy John a’r Prif Weinidog Mark Drakeford.

Byddan nhw’n cyfarfod â phlant ysgol a’r gymuned leol cyn teithio i’r Senedd i dderbyn Cynig o Gydymdeimlad yn y Siambr a theyrngedau gan Aelodau.

Y disgwyl yw y bydd yna gynulliad wedyn rhwng y brenin, y Prif Weinidog a’r Llywydd Elin Jones yng Nghastell Caerdydd, cyn i’r brenin a’r frenhines gydweddog gyfarfod â sefydliadau, elusennau ac arweinwyr ffydd.