Gellid troi pobol i ffwrdd rhag bod yn berchnogion ail gartrefi mewn datblygiad tai newydd ym Môn drwy godi treth cyngor uwch, yn ôl dogfen gynllunio.

Daw’r sylw fel rhan o adroddiad ymgynghoriad cyn gwneud cais, yn sgil cais cynllunio i godi datblygiad 75 eiddo preswyl newydd yn Nhŷ Hen.

Mae disgwyl i Gyngor Sir Ynys Môn ystyried y cais llawn ar gyfer codi 50 o breswylfeydd a 12 o fflatiau yn Stad Maes Derwydd.

Mae’r cynigion yn cynnwys adeiladu mynediad newydd i gerbydau a ffordd newydd, gorsaf pwmpio dŵr gwastraff a thirlunio meddal a chaled.

Cafodd y cais ei gyflwyno gan Quatrefoil Homes Ltd ar ran Mr a Mrs Roberts, a hynny drwy’r asiant David Fitzsimon o Fitzsimon Planning & Development Ltd.

Mae’r darn o dir gwag 2.38 hectar sydd wedi’i glustnodi ar gyfer ei ddatblygu yn agos i Ysgol Gyfun Llangefni.

Pryderon

Mae’r adroddiad cyn cais yn mynd i’r afael â phryderon sydd wedi’u codi gan drydydd parti.

Mewn ymholiad ynghylch ail gartrefi, mae’r adroddiad yn nodi mai “mater i’r Cyngor ei reoli” yw hwn.

“Gellid defnyddio mesurau megis treth y cyngor ar gyfer ail gartrefi i droi pobol i ffwrdd rhag bod yn berchnogion ail gartrefi,” meddai’r adroddiad.

Cafodd cwestiynau ynghylch yr angen am ragor o gartrefi o ran “capasiti ysgolion lleol i amsugno’r galw ychwanegol gan deuluoedd, effaith ar isadeiledd cymdeithasol megis meddygfeydd a deintyddfeydd a’r effaith ar yr iaith Gymraeg” eu codi.

O ran “yr angen am ragor o gartrefi”, meddai’r adroddiad, roedd y cais wedi’i “ddynodi’n arbennig” fel safle tai gan y Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd rhwng Môn a Gwynedd a gafodd ei fabwysiadu i ddiwallu “anghenion tai a gafodd eu nodi” yn yr ardal.

“Fel safle tai o fewn y Cynllun Datblygu Lleol, byddai’r Cyngor wedi sicrhau naill ai bod gan yr isadeiledd cymdeithasol presennol y capasiti i amsugno’r datblygiad neu y gellid ei wella er mwyn gwneud hynny,” meddai.

O ran yr effaith bosib ar yr iaith Gymraeg, mae’n cael ei ystyried yn “safle tai dynodedig” ac mae’r cais yn cynnwys amrywiaeth o breswylfeydd sydd ar gael i’w gwerthu ar y farchnad agored.

Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys amrywiaeth o gartrefi sydd wedi’u dynodi’n unedau “fforddiadwy”, sydd ond ar gael i bobol leol “sydd angen tai” ac sy’n bodloni “meini prawf cymhwysedd llym”, meddai’r adroddiad.

O ran “colli tir gwyrdd”, nododd yr adroddiad fod y datblygiad yn “dai dynodedig” o fewn y Cynllun Datblygu Lleol, oedd unwaith eto, meddai, wedi sefydlu’r “egwyddor o ddatblygiad preswyl”.

Roedd hefyd yn cyfeirio at arolwg ecolegol cychwynnol, gan honni na fyddai’r cynlluniau’n cael “effaith annerbyniol ar fywyd gwyllt lleol”.

Roedd “datblygu bioamrywiaeth” hefyd yn rhan o’r cynllun. Fodd bynnag, cyfaddefodd yr adroddiad fod “elfen o sŵn a tharfu” “braidd yn anochel” yn ystod y gwaith adeiladu, ond y byddai’r effaith yn un dros dro.

Roedd Cyngor Tref Llangefni hefyd wedi mynegi pryderon am effaith 75 eiddo preswyl ar y rhwydwaith o briffyrdd.

Roedd yn awgrymu ehangu’r fynedfa wedi’i chynllunio ar Ffordd Rhostrehwfa ar y B442 fel y byddai trigolion “yn fwy tebygol o ddefnyddio’r fynedfa hon tra’n gyrru yn hytrach na Maes Derwydd” sydd “eisoes yn anodd”.

Mae disgwyl penderfyniad llawn ar y cais.

“Dyma’r ail flwyddyn i ni dalu premiwm 100%. Dw i wedi rhoi’r tŷ ar y farchnad achos dw i eisiau osgoi’r polisi”

Cadi Dafydd

“Dw i’n llwyr gefnogi’r diwylliant a’r iaith… ond os ydy hynny ar draul popeth arall, mae gennych chi broblem,” medd perchennog ail dŷ yn Llŷn