Mae perchennog ail gartref ym Mhen Llŷn yn honni bod cynyddu’r premiwm treth cyngor ar ail gartrefi wedi gostwng gwerth ei dŷ gan ryw £60,000.
Cafodd premiwm treth cyngor ail gartrefi a thai gwag hirdymor Gwynedd ei godi i 100% y llynedd, ac mae Trevor Wright wedi rhoi ei dŷ ym Morfa Nefyn ar y farchnad er mwyn osgoi’r polisi.
Gall awdurdodau lleol godi’r premiwm treth cyngor i 300% bellach, ac roedd disgwyl i Gabinet Cyngor Gwynedd gyfarfod heddiw (dydd Mawrth, Medi 13) er mwyn ystyried cynnal ymgynghoriad ar y mater. Mae’r cyfarfod wedi cael ei ohirio yn sgil marwolaeth Brenhines Lloegr.
Fodd bynnag, mae Trevor Wright, sy’n berchen ar y tŷ ym Morfa Nefyn ers 22 mlynedd ond yn byw yn Swydd Northampton fel arall, yn credu y byddai treblu’r premiwm yn “benderfyniad hurt” fyddai’n blaenoriaethu’r iaith “ar draul popeth arall”.
“Dyma’r ail flwyddyn i ni dalu premiwm 100%. Dw i wedi rhoi’r tŷ ar y farchnad achos dw i eisiau osgoi’r polisi,” meddai wrth golwg360 am y tŷ gafodd ei adeiladu ar ei gyfer.
“Mae e wedi lladd y farchnad dai, mae’n debyg ei fod wedi gostwng gwerth fy nhŷ gan £50,000 i £60,000 yn hawdd.
“Roeddwn i’n siarad â chrefftwyr lleol sy’n gandryll oherwydd mae 70% o gwsmeriaid fy adeiladwr i’n berchnogion ail dai, ac maen nhw’n meddwl ei fod yn hurt.
“Mae’r crefftwyr lleol wir yn poeni am hyn, achos maen nhw’n gweld eu busnes yn diflannu.”
‘Difetha twristiaeth’
Byddai codi’r premiwm treth cyngor ymhellach yn “difetha’r diwydiant twristiaeth”, ym marn Trevor Wright.
Dan reolau newydd Llywodraeth Cymru, er mwyn i dŷ gael ei ystyried yn fusnes, bydd yn rhaid iddo fod ar gael am 252 o ddiwrnodau’r flwyddyn i’w rentu fel tŷ gwyliau a bydd yn rhaid iddo fod yn llawn am 182 diwrnod.
“Mae hynny’n amhosib, fedrwch chi ddim rhentu eiddo yng ngogledd Cymru am 182 diwrnod y flwyddyn,” meddai.
“Yr unig beth mae ganddyn nhw ddiddordeb ynddo ydy’r iaith Gymraeg, a does gen i ddim problem gyda’r iaith Gymraeg – dw i’n llwyr gefnogi’r diwylliant a’r iaith, dw i’n meddwl ei fod yn beth da. Ond os ydy hynny ar draul popeth arall, mae gennych chi broblem.”
Mae tua 40% o dai Morfa Nefyn yn ail gartrefi, ac mae hi’n un o’r ardaloedd sy’n cael ei heffeithio waethaf gan yr argyfwng tai.
Yn ddiweddar, fe wnaeth Cyngor Gwynedd brynu tir ym Morfa Nefyn gyda’r bwriad o adeiladu naw tŷ fforddiadwy.
“Dim jyst Cymru sydd â phroblem gyda thai fforddiadwy, dw i’n byw ugain milltir tu allan i Rydychen – trïwch brynu tŷ yn Rhydychen!” meddai Trevor Wright.
“Darparu swyddi, dyna mae angen i’r Cyngor ei wneud. Amaethyddiaeth a thwristiaeth ydy’r ddau brif beth yn yr ardal, i gyd gyda chyflog isel.
“Fyddai’r tai ‘fforddiadwy’ tu allan i’w cyrraedd hyd yn oed.”
‘Anwybyddu’
Mae gan Martin, sy’n byw ym Manceinion ond sy’n berchen ar dŷ yng Nghaernarfon, bryderon am unrhyw gynnydd pellach yn y premiwm treth cyngor hefyd.
Golyga ei waith fod gofyn iddo weithio yng ngogledd Cymru o bryd i’w gilydd, ac mae’n defnyddio’r tŷ yng Nghaernarfon ar yr adegau hynny.
Pe bai ymgynghoriad yn cael ei gynnal, mae Martin yn teimlo fel pe na fyddai pwynt ymateb.
“O fy mhrofiad i, does yna fawr ddim pwynt, neu ddim o gwbl hyd yn oed, ymateb i ymgynghoriadau Gwynedd – sydd ond yn weithred symbolaidd,” meddai Martin, sy’n bwriadu symud i Gymru yn gyfan gwbl yn y pendraw, wrth golwg360.
“Os nad yw’r ymateb yn cyd-fynd â’r hyn maen nhw’n dymuno ei weld yna maen nhw’n ei anwybyddu.”
‘Gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau’
O fis Ebrill 2023, bydd tri dosbarth defnydd cynllunio newydd, sef prif gartref, ail gartref a llety gwyliau tymor byr, ac fe fydd awdurdodau yn gallu mynnu caniatâd cynllunio i newid defnydd o un dosbarth i’r llall, lle mae tystiolaeth bod angen hynny.
Yn ogystal bydd modd i awdurdodau lleol reoli nifer yr ail gartrefi a’r llety gwyliau mewn unrhyw gymuned.
O ganlyniad i’r pecyn mesurau mae Llywodraeth Cymru wedi’i gyflwyno, fe fydd cynghorau sir yn gallu gorfodi perchnogion – lle mae ganddyn nhw dystiolaeth – i ofyn am ganiatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd eiddo tŷ o un dosbarth i’r llall.
Felly, yn y bôn, byddai modd i gyngor sir atal troi cartref parhaol yn dŷ haf mewn ardal lle mae gormod ohonyn nhw.
“Bydd mesurau eraill ar gael i awdurdodau lleol o fis Ebrill felly dylai’r gwaith paratoi ar gyfer hynny fod yn dechrau nawr,” meddai Osian Jones o Gymdeithas yr Iaith.
“Gallai’r grymoedd yma wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cymunedau, felly mae angen iddyn nhw fod ar gael i’w defnyddio yn syth.”
Bydd Rali Nid yw Cymru ar Werth yn cael ei chynnal yn Llangefni ddydd Sadwrn (Medi 17).
‘Arian at gartrefi fforddiadwy’
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Mae deddfwriaeth wedi newid sy’n caniatáu i awdurdodau lleol godi Premiwm ar Dreth Cyngor Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor hyd at 300% ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24.
“Bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn ystyried argymhelliad i symud ymlaen i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu barn ar y cyhoedd ar hyn.
“Pan fydd yr ymgynghoriad yn weithredol, rydym yn annog aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb yn y maes i fanteisio ar y cyfle i gyflwyno eu safbwyntiau.
“Os bydd y Cabinet yn pleidleisio i fwrw ymlaen, bydd y Cyngor yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus am 28 niwrnod gan wahodd sylwadau gan y cyhoedd ac yna bydd y Cabinet yn cyflwyno argymhelliad ar lefel y Premiwm Treth Cyngor ar gyfer 2023/24 i’r Cyngor Llawn yn Rhagfyr 2022.
“Mae unrhyw arian sy’n dod i goffrau’r Cyngor drwy’r premiwm yn cael ei fuddsoddi mewn cynlluniau sy’n sicrhau bod gan bobl Gwynedd fynediad at gartref addas o safon, sy’n fforddiadwy ac sy’n gwella eu hansawdd bywyd.
“Y premiwm yw un o’r arfau sydd gan y Cyngor er mwyn mynd i’r afael â phrinder tai fforddiadwy o fewn y sir a’r nifer uchel o ail gartrefi.”