Gallai darn o dir amaeth ym Môn gael ei droi’n faes carafanau pe bai cynllunwyr yn cydsynio.

Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Sir yr ynys wedi derbyn cais i ddatblygu darn o dir ar gyfer 14 o garafanau yn Esgobaeth Bran, Llanbedrgoch.

Mae’r cynigion hefyd yn cynnwys troi adeilad allanol yn doiledau, a gosod safle trin carthffosiaeth.

Cafodd y cynlluniau eu cyflwyno gan Mr a Mrs Brian Jones drwy’r asiant Mr Berwyn Owen o Berllan Properties Planning and Development Ltd yn Llangefni.

Mae’r safle wedi’i ddisgrifio fel un sydd 1.4km o bentref Llanbedrgoch, ar ochr ddwyreiniol Ynys Môn.

Mae’r cynlluniau’n ymwneud â darn o dir mae’r asiant yn honno sydd “wedi’i guddio’n dda ar y cyfan o olwg y cyhoedd, ac yn ddigon pell o’r eiddo eraill fel nad yw’n niweidio’r lefel bresennol o gyfleustra”.

Y cais

Mae’r cais yn nodi y “byddai’r cynnig yn sicrhau darpariaeth fechan ond da i dwristiaid, i ffwrdd o’r arfordir sydd dan bwysau, a fydd yn darparu lleoliad deniadol a fyddai’n denu ymwelwyr i’r ardal hon o’r ynys”.

“O ganlyniad, bydd manteision economaidd sylweddol i’r economi leol yn sgil y cynnig,” meddai.

Dywed y cynlluniau y gallai’r cynllun ddarparu un swydd lawn amser ochr yn ochr â swyddi rhan amser i gefnogi’r cyfleuster.

“Bydd y cynnig yn darparu manteision economaidd sylweddol drwy wariant ymwelwyr yn yr ardal leol,” honna’r cais.

Byddai’r defnydd o’r safle’n cael ei “gyfyngu i ddefnydd gwylio”, a dim ond yn cael ei ddefnyddio at ddiben teithio, gyda’r holl unedau’n cael eu symud pan na fyddan nhw’n cael eu defnyddio.

Fyddai’r parc ddim ond yn weladwy o “ambell leoliad uchel”, gan achosi “ychydig o effaith” ar y dirwedd gyfagos a “bron dim” effaith ar y dirwedd ehangach, meddai’r cynlluniau.

Awgrymir hefyd y gellid pori’r safle glaswelltog yn ystod y misoedd pan na fydd yn cael ei ddefnyddio.

Mae ystyriaethau’r priffyrdd yn nodi y byddai angen ehangu mynediad i’r safle ac wrth fynd i’r afael â’r gofynion, mae’r cynlluniau’n nodi “15 o fannau pasio” ar hyd y llwybr o bentref Llanbedrgoch i’r safle.

Mae’r cynlluniau hefyd yn dweud “na fyddai colli darnau bach o laswellt wedi’i wella’n sylweddol yn cael fawr o effaith ar fioamrywiaeth”, ond cafodd argymhellion eu darparu “i weithredu yn erbyn colli cynefinoedd nythu i wenoliaid o ganlyniad i waith ar yr adeilad dan sylw”.

Ymhlith y manylion mae yna gynllun i weithredu yn erbyn colli rhes o goed ynn, ac mae’n argymell plannu “coed a pherthi ar hyd ffin ogledd-ddwyreiniol y safle”.

Mae disgwyl y bydd y mater yn mynd gerbron y pwyllgor cynllunio ar Hydref 5.