Mae Pere Aragonès wedi gwahodd pleidiau a mudiadau cymdeithas sifil i drafod annibyniaeth heddiw (dydd Mawrth, Medi 13).
Daw hyn ddiwrnod ar ôl protest fawr oedd wedi amlygu’r rhwyg o fewn y mudiad annibyniaeth yng Nghatalwnia, ar ôl i’r arlywydd a’i weinidogion wrthod mynd i’r brotest, gan fynnu ei bod yn rali yn erbyn pleidiau gwleidyddol.
Mae Aragonès wedi gwahodd Assemblea Nacional Catalana, Òmnium a Chymdeithas y Bwrdeistrefi tros Annibyniaeth i gyfarfod ag e i drafod y sefyllfa ac i wrando ar yr hyn sydd ganddyn nhw i’w gynnig fel ffordd ymlaen.
Aragonès yw’r arlywydd cyntaf i wrthod mynd i’r rali flynyddol ers 2015, a hynny ar ôl iddo geisio perswadio’r trefnwyr i ganolbwyntio ar bwyso ar Sbaen yn hytrach nag aelodau’r mudiad annibyniaeth, sef plaid Esquerra.
“Os nad ydyn nhw’n ei wneud e, rydym yn benderfynol o’i wneud e ein hunain gydag etholiadau a chwaraewyr newydd,” meddai Dolors Feliu, llywydd yr ANC cyn y digwyddiad dros y penwythnos.
Mae hi wedi bod yn feirniadol o’r hyn mae’r mudiad yn ei ystyried yn ddiffyg ymdrech gan y llywodraeth a phleidiau gwleidyddol eraill i fynd i’r afael â dyhead y bobol i sicrhau’r hawl i benderfynu ar annibyniaeth.
Yn ystod y digwyddiad, fe fu’r protestwyr yn galw ar Lywodraeth Catalwnia i gamu o’r neilltu.