Mae staff yn swyddfa a chartref Charles tra roedd yn Dywysog Cymru yn wynebu diswyddiadau ac yntau wedi dod yn Frenin Lloegr.

Dywed llefarydd ar ran y Palas fod colli swyddi yn “anochel”, er gwaetha’r ffaith fod nifer ohonyn nhw wedi gweithio i Charles ers degawdau.

Mae’r Tywysog William eisoes wedi dweud ei fod yn bwriadu lleihau rôl Tywysog Cymru a chanolbwyntio ar lond llaw o elusennau.

Dywedodd ei swyddfa yn gynharach eleni fod ganddo gynlluniau i gael gwared ar hanner y 100 o staff oedd yn cael eu cyflogi gan Charles fel Tywysog Cymru.

Mae’n debyg fod y llythyr yn rhybuddio am ddiswyddiadau, a gafodd ei anfon gan Syr Clive Alderton fel ysgrifennydd preifat y Brenin, wedi bod yn sioc aruthrol i staff.

“Ni fydd y portffolio o waith oedd yn cael ei ymgymryd er mwyn cefnogi buddiannau personol y cyn-Dywysog yn ogystal â’i hen weithgareddau a gweithrediadau’r cartref, yn cael eu cyflawni,” meddai’r llythyr.

“Ar ben hynny, bydd yr aelwyd yn Clarence House yn cau.

“Rydym felly yn rhagweld na fydd angen am y swyddi sy’n cefnogi’r meysydd hyn, ac sydd wedi’u lleoli yn bennaf yn Clarence House, mwyach.”

‘Rolau eraill’

“Yn dilyn digwyddiadau’r wythnos ddiwethaf, mae gweithrediadau aelwyd cyn Dywysog Cymru a Duges Cernyw wedi dod i ben ac, yn ôl y gyfraith, mae proses ymgynghori wedi dechrau,” meddai llefarydd ar ran Clarence House.

“Mae ein staff wedi rhoi gwasanaeth hir a ffyddlon, ac er na fydd modd osgoi rhai diswyddiadau, rydym yn gweithio ar frys i adnabod rolau eraill i’r nifer fwyaf o staff.”