Mae Anna Gabriel, cyn-Aelod Seneddol plaid CUP yng Nghatalwnia, yn mynd gerbron y Goruchaf Lys heddiw i roi tystiolaeth am ei rhan yn yr ymgyrch tros annibyniaeth yn 2017.
Aeth hi’n alltud yn y Swistir am rai misoedd wedi’r helynt, ac roedd hi wedi bod yn astudio ar gyfer Doethuriaeth cyn dychwelyd adref fis Gorffennaf eleni.
Cafodd ei chyhuddo o anufudd-dod, yn wahanol i eraill a gafodd eu cyhuddo o annog terfysg, ac felly doedd dim gwarant i’w harestio hi tra ei bod hi dramor.
Daw’r achos drannoeth yr alwad gan Assemblea Nacional Catalana ar i’r Arlywydd Pere Aragonès alw annibyniaeth “yn ystod ail chwarter 2023”.
Fe wnaeth yr ANC gyfarfod ag arweinydd Catalwnia a nifer o sefydliadau eraill i drafod y sefyllfa wleidyddol bresennol, yn dilyn rhwyg yn sgil protest genedlaethol ar ddiwrnod cenedlaethol La Diada, ar ôl i’r arweinydd wrthod mynd gan ei fod yn ystyried y digwyddiad fel un yn erbyn gwleidyddion Catalwnia ac nid yn erbyn Sbaen.
‘Cyfle allwn ni mo’i golli’
Yn ôl Dolors Feliu, arweinydd yr ANC, mae ail chwarter 2023 wedi’i ddewis er mwyn cyd-fynd â diwedd cyfnod arlywyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd, sy’n mynd o Orffennaf 1 i Ragfyr 31.
“Mae’n gyfle allwn ni mo’i golli,” meddai’r ANC mewn datganiad.
Ond mae plaid Esquerra eisoes wedi wfftio’r dyddiad hwnnw, gan ddweud “nad yw’r amodau’n iawn ar hyn o bryd i fwrw ymlaen â chynnig brysiog yr ANC”.
Mae plaid Junts per Catalunya wedi wfftio’i sylwadau fel rhai gan unigolyn yn hytrach na sylwadau sy’n adlewyrchu barn ei phlaid.
Mae Esquerra a Junts wedi bod yn cydweithio yn y llywodraeth ers blynyddoedd, ond maen nhw’n anghytuno fwyfwy erbyn hyn ar y ffordd ymlaen o ran yr ymgyrch tros annibyniaeth.
Mae un aelod o Junts wedi mynd mor bell ag awgrymu y gallai’r mater chwalu’r llywodraeth.