Mae rhai wedi beirniadu penderfyniad ambell fanc bwyd i gau ar ddiwrnod angladd Elizabeth II, Brenhines Lloegr, ddydd Llun (Medi 19).
Bydd banc bwyd St Thomas yn Abertawe, sy’n cael ei redeg gan y Trussell Trust, ynghyd ag Oergell Gymunedol Cydweli a sawl banc bwyd dros y ffin yn Lloegr, ar gau.
Mae rhai wedi cwestiynu penderfyniad Banc Bwyd Abertawe, sy’n cael ei redeg gan y Trussell Trust, i gau gan ofyn ‘Os yw plant yn llwglyd ddydd Llun, i le maen nhw’n mynd?’
Gwirfoddolwyr sy’n rhedeg y banciau bwyd gan amlaf ac yn ôl Prif Weithredwr elusen Trussell Trust, banciau bwyd unigol sydd yn y “safle orau i wneud penderfyniad cywir i’w cymuned”.
Wrth ymateb i feirniadaeth ar eu tudalen Facebook, dywedodd Banc Bwyd Abertawe fod tri o’u banciau ar agor ddydd Gwener (Medi 16) a dau ar agor ddydd Mawrth (Medi 20).
“Pan rydyn ni wedi agor ar ddyddiau sy’n wyliau banc yn y gorffennol, dydy pobol heb droi fyny,” meddai Banc Bwyd Abertawe.
“Rydyn ni’n rhoi cyfle i’n holl wirfoddolwyr roi eu teyrngedau.
“Rydyn ni’n gadael i bobol wybod ein bod ni’n cau nawr fel eu bod nhw’n gallu paratoi cyn y diwrnod.”
‘Dibynnu ar ymrwymiad gwirfoddolwyr’
“Mae banciau bwyd yn ein rhwydwaith yn rhedeg sesiynau ar wahanol ddyddiau a gwahanol amseroedd, ac mae nifer yn dibynnu ar ymrwymiad diwyro gwirfoddolwyr,” meddai Emma Revie, Prif Weithredwr y Trussell Trust.
“Y banciau bwyd sydd yn y sefyllfa orau i wneud y penderfyniad cywir ar gyfer eu cymunedau a sicrhau bod pawb sydd angen cefnogaeth yn gallu ei derbyn, fel sy’n digwydd gyda phob gŵyl banc.
“Yn aml, mae banciau bwyd yn agor am oriau hirach, neu sesiynau ychwanegol, yn ystod gwyliau banc.
“Gan fod pob banc bwyd yn elusen annibynnol, byddem yn annog pobol sydd angen cefnogaeth i gysylltu â’u banc bwyd lleol i weld beth yw eu horiau agor.”
Prisiau cynyddol
Daw hyn wrth i ystadegau ddangos nad ydy prisiau bwyd a diod wedi codi mor gyflym ag yr ydyn nhw bellach, ers 2008.
Prisiau cynyddol wyau, llaeth a chaws sy’n gyfrifol am wthio chwyddiant bwyd i’w lefel uchaf ers 14 mlynedd.
Er hynny, roedd y gostyngiad mewn prisiau petrol a disel yn golygu bod chwyddiant wedi gostwng ychydig ym mis Awst, o 10.1% ym mis Gorffennaf i 9.9%.
Mae Banc Lloegr wedi rhybuddio y gallai chwyddiant gyrraedd 13% eleni.