Mae ystadegau chwyddiant diweddaraf y Deyrnas Unedig wedi “codi braw” ar economegydd o Brifysgol Bangor sydd wedi bod yn siarad â golwg360
Daw hyn ar ôl i ystadegau a gafodd eu rhyddhau fore heddiw (dydd Mercher, Awst 17) ddangos fod chwyddiant wedi cynyddu i 10.1% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2022 – i fyny o 9.4% fis ynghynt.
Mae chwyddiant y Deyrnas Unedig wedi codi’n gyson o 4.9% ym mis Ionawr i’r gyfradd bresennol.
A’r Deyrnas Unedig sydd â’r gyfradd chwyddiant uchaf o holl aelodau’r G7 ar hyn o bryd.
“Uwch nag yr oedden ni wedi’i ddisgwyl”
“Yn anffodus fe ddaeth y ffigwr i mewn heddiw ychydig yn uwch nag yr oedden ni wedi’i ddisgwyl,” meddai Dr Edward Jones wrth golwg360.
“Roedden ni’n disgwyl ffigwr o gwmpas 9.7% ac yn anffodus mae o wedi mynd dros 10%.
“A beth sydd wedi codi braw arna i yw ein bod ni’n dechrau gweld chwyddiant yn mynd i mewn i rannau eraill o’r economi.
“Felly pan gawson ni’r ffigyrau cynt ym mis Mehefin, mi oedden ni’n gallu dweud bod chwyddiant yn codi ond ei fod o wedi cael ei gyfyngu mewn ffordd i egni a phrisiau bwyd.
“Rŵan rydyn ni’n dechrau gweld prisiau llawer o bethau eraill yn codi ac mi fysa hyn yn codi pryder ar Fanc Lloegr, bod chwyddiant yn lledaenu mewn i rannau eraill o’r economi.
“Wrth gwrs rydyn ni gyd yn gwybod pam fod pris egni yn codi, y prif reswm ydy’r rhyfel yn Wcráin ac mae hon yn stori sydd wedi bod yn mynd am ran fwyaf o’r flwyddyn.
“Un o’r prif bethau sydd wedi bod yn gyrru chwyddiant ymlaen y tro yma ydy prisiau bwyd.
“Does gan Lywodraeth Prydain ddim llawer o reolaeth dros bris olew a nwy oherwydd rydyn ni’n mewnforio llawer o beth rydyn ni’n ei ddefnyddio.
“Ond mae ganddyn nhw lawer mwy o reolaeth dros brisiau bwyd, rydyn ni yn gallu cynhyrchu bwyd yn y wlad yma, ond ella nad yw’r cymorth gan y Llywodraeth yna ar hyn o bryd i wneud yn siŵr bod yna ddigon yn cael ei gynhyrchu yn y wlad a bod y bwyd yna’n rhad i’r cwsmeriaid.
“Felly er bod yna newyddion drwg heddiw, dw i’n meddwl bod yna gyfle i’r Llywodraeth ddechrau helpu drwy daclo hyn yn well.”
“Brexit yn chwarae rhan”
Brexit yw un o’r prif resymau pam mai’r Deyrnas Unedig sydd â’r gyfradd chwyddiant uchaf o holl aelodau’r G7, yn ôl Dr Edward Jones.
“Wrth gwrs, mae Brexit yn chwarae rhan,” meddai.
“Mae Bloomberg (gwefan newyddion busnes, marchnadoedd, data, a dadansoddiad) yn dweud ers peth amser bod yna ganran uchel o’r chwyddiant mae Prydain yn ei gael yn bodoli oherwydd Brexit.
“Mae Brexit wedi cael effaith ar y gadwyn gyflenwi sy’n gwneud pethau’n ddrytach pan maen nhw’n dod i mewn i’r wlad.
“Prydain sydd â’r chwyddiant uchaf yn y G7.
“Rŵan os ydan ni’n edrych ar y gwledydd sydd orau i’w cymharu gyda, sef gwledydd Ewrop ac America, tydy America ddim efo’r un broblem egni, dydyn nhw ddim yn ddibynnol ar egni o Rwsia felly tydy eu chwyddiant nhw ddim yn cael ei yrru gan yr un pethau.
“Roedd yna ffigyrau am chwyddiant yn America’r wythnos ddiwethaf ac maen nhw’n dechrau meddwl eu bod nhw wedi cael gafael arno, eu bod nhw’n ennill y frwydr yn y fan yna.
“Hefyd, mae Joe Biden wedi dod â phecyn mawr allan yn ddiweddar yn benodol i daclo chwyddiant.
“O ran gwledydd Ewropeaidd, mae ganddyn nhw’r un broblem o ran egni, eu bod nhw’n ddibynnol ar Rwsia.
“Ond beth sy’n eu gwneud nhw’n wahanol ydy does ganddyn nhw ddim yr un chwyddiant bwyd.
“Felly mae chwyddiant iddyn nhw’n is na’r hyn rydyn ni’n weld yn y fan yma.
“Rydyn ni’n cael problemau efo egni, bwyd, ac mae gennym ni Brexit ar ben hynna sy’n effeithio’r cadwyni cyflenwi ac yn gwneud pethau’n ddrytach i ni.
“Tydy’r economi ddim yn gwneud yn dda sy’n golygu bod y bunt wedi gwanhau, ac oherwydd bod y bunt wedi gwanhau mae unrhyw beth rydyn ni’n ei fewnforio o wledydd eraill yn ddrytach ac mae hynna ei hun yn bwydo mewn i’r broblem chwyddiant yma.”
Sut y bydd y Llywodraeth yn ymateb?
Mae Banc Lloegr wedi darogan y bydd chwyddiant yn cyrraedd 13% o gwmpas diwedd y flwyddyn cyn dechrau gostwng.
O ystyried bod y ffigyrau diweddaraf yn uwch na’r disgwyl, mae Dr Edward Jones yn cydnabod bod yna bosibilrwydd y bydd chwyddiant yn pasio 13% eleni.
Fodd bynnag, mae’n dweud bod “llawer yn ddibynnol ar sut y bydd y Llywodraeth yn ymateb”.
“Yn anffodus y disgwyl oedd bod chwyddiant yn mynd i gyrraedd pig o 11% ym mis Hydref, ond rŵan rydan ni’n disgwyl iddo gyrraedd pig o ryw 13%,” meddai.
“Mi fydd ffigyrau heddiw wedi bod yn fraw i sawl person a dw i’n siŵr y bydd yna ailedrych ar y ffigwr o 13% erbyn diwedd y flwyddyn.
“Mae llawer yn ddibynnol ar sut mae’r Llywodraeth yn ymateb i hyn.
“Rydyn ni angen i’r Llywodraeth chwarae rôl go bwysig rŵan wrth daclo’r broblem yna, allwn ni ddim dibynnu ar Fanc Lloegr eu hunain i ddatrys y broblem yma.
“Felly mae’n anodd iawn dweud gyda’r 13% yna erbyn diwedd y flwyddyn oherwydd mae llawer yn ddibynnol ar sut y bydd y Llywodraeth yn ymateb.
“Wrth gwrs, os ydyn nhw’n penderfynu peidio ymateb a pheidio helpu pobol yna mae yna siawns y bydd y ffigwr yna’n uwch na 13%.”