Mae’r Torïaid yn cymeradwyo gweithwyr yn gyhoeddus, ac yn eu sarhau yn breifat, medd Gweinidog Economi Cymru.

Fe wnaeth Vaughan Gething y sylw wrth ymateb i adroddiadau bod Liz Truss, y ceffyl blaen yn ras arweinyddol y Ceidwadwyr, wedi dweud bod angen i weithwyr gwledydd Prydain “ymdrechu i weithio’n galetach”.

Yn ôl y Guardian, mae Liz Truss yn awgrymu mewn recordiad y maen nhw wedi cael gafael arno fod gan weithwyr o Brydain ddiffyg “sgil a chymhwysiad” o gymharu â gweithwyr o dramor.

Cafodd y sylwadau eu gwneud pan oedd Liz Truss yn brif ysgrifennydd y Trysorlys, swydd y buodd hi ynddi hyd nes 2019.

Dywedodd yn y recordiad ei bod hi’n ymddangos fel bod ychydig iawn o awydd i newid diwylliant gweithio er mwyn gwneud y Deyrnas Unedig yn fwy ffyniannus, meddai’r Guardian.

Mae sylwadau Liz Truss yn adlewyrchu rhan o lyfr a gafodd ei gyd-sgrifennu ganddi yn 2012, a ddywedodd bod gweithwyr gwledydd Prydain ymysg y “segurwyr gwaethaf yn y byd”.

Ers hynny, mae hi wedi gwneud ymdrechion i bellhau ei hun oddi wrth y sylwadau a dywedodd wrth y BBC fis diwethaf mai ei chydawdur, Dominic Raab, wnaeth ysgrifennu’r bennod honno.

Mae Dominic Raab wedi honni bod yr holl awduron, a oedd yn cynnwys Priti Patel a Kwasi Kwarteng hefyd, wedi cymryd “cydgyfrifoldeb” dros y llyfr, ac mai lle Liz Truss ydy esbonio pam ei bod hi wedi newid ei meddwl.

‘Cymeradwyo’n gyhoeddus, sarhau yn breifat’

Wrth ymateb, dywed Vaughan Gething, sy’n Aelod Llafur o’r Senedd dros Dde Caerdydd a Phenarth: “Yn gyhoeddus, fe wnaeth y Torïaid gymeradwyo gweithwyr. Mewn preifatrwydd, maen nhw’n eu sarhau.”

Meddai’r undeb Community, sy’n “undeb fodern” sy’n cefnogi gweithwyr dros y Deyrnas Unedig: “Mae Liz Truss yn meddwl nad ydy gweithwyr Prydeinig yn gwneud digon o ymdrech i weithio’n galed?

“Efallai y bydd gan y gweithwyr allweddol a wnaeth gynnal y wlad rywbeth i’w ddweud am hynny.”

Meddai Liz Saville Roberts, Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan: “Dogwhistle Liz Truss i roddwyr ac aelodau Torïaidd gyda’r addewid i losgi hawliau ac amddiffynfeydd gweithwyr yn ulw.”