Bydd MineXchange – cynhadledd deuddydd ym Mhrifysgol Aberystwyth – yn edrych ar y posibilrwydd o ddatblygu canolfannau rhagoriaeth yng Nghymru ar gyfer adfer mwyngloddiau metel a glo.
Bydd y gynhadledd yn parhau i hwyluso cysylltiadau rhwng y byd academaidd a diwydiant, ac i gefnogi arloesedd drwy rannu gwybodaeth a phrofiadau, yn ogystal â’r cyfleoedd i fasnacheiddio amgylcheddau mwynglawdd sydd wedi’u difrodi.
Bydd diwrnod cyntaf y gynhadledd – sy’n cael ei threfnu gan Cyfoeth Naturiol Cymru gyda’r Awdurdod Glo yn bartner – yn cael ei gynnal yn Ystafell Medrus yn y brifysgol ar Fedi 12.
Bydd y diwrnod yn cynnwys amrywiaeth o gyflwyniadau ac astudiaethau achos gan arbenigwyr o ddiwydiant, y sector cyhoeddus a’r byd academaidd.
Bydd ail ddiwrnod y gynhadledd yn cynnwys taith o dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Glo i Gwm Rheidol ac Ystumtuen i weld y gwaith adfer cloddfa metel diweddaraf. Bydd cludiant ar gael, ond does dim rhaid i bobol fynd ar y daith.
‘Cyfle na all pobol… fforddio ei fethu’
“Mae cynhadledd MineXchange yn gyfle na all pobl sy’n gweithio yn y maes adfer mwyngloddiau metel a glo fforddio ei fethu,” meddai Peter Stanley, uwch gynghorydd mwyngloddiau wedi’u gadael gyda Chyfoeth Naturiol Cymru.
“Byddwn ni’n edrych ar sut y gall adfer mwyngloddiau fod yn fwy na chyfyngu ar niwed amgylcheddol, ond rhywbeth sy’n gallu hybu a chefnogi cymunedau lleol. Bydd mynychwyr y gynhadledd hefyd yn dysgu am ymchwil blaengar wrth adfer mwyngloddiau.”
Mae cofrestru yn rhad ac am ddim ac yn hanfodol er mwyn gallu mynychu.
Mae angen i fynychwyr e-bostio geoscience@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk a dychwelyd ffurflen gofrestru syml i sicrhau eu lle.
Mae modd trefnu llety yn uniongyrchol gyda Phrifysgol Aberystwyth trwy e-bostio https://bookaccommodation.aber.ac.uk/