Mae’r ystadegau diweddaraf ar gyfraddau goroesi canser yn “amlygu’r angen brys am strategaeth ganser gynhwysol”, yn ôl yr elusen Macmillan.

Er bod cyfraddau goroesi wedi gwella ar gyfer y mathau mwyaf cyffredin o ganser, maen nhw wedi gostwng neu aros yn wastad ar gyfer mathau mwy prin o ganser.

Mae gwleidyddion ac elusennau wedi bod yn galw ers tro am strategaeth ganser i Gymru.

Mae’r adroddiad ar Fynychder Canser yng Nghymru 2002-2019, yn cyfleu darlun cymysg, ac er bod cyfradd yr achosion newydd o ganser yng Nghymru – sydd wedi’u haddasu ar gyfer oedran y boblogaeth – wedi gostwng, mae nifer yr achosion newydd yn parhau i gynyddu bob blwyddyn wrth i’r boblogaeth heneiddio.

Yn ôl Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru, mae’r gostyngiad yn y cyfraddau wrth ystyried oedran y boblogaeth yn awgrymu bod y risg gyffredinol o ganser yn y boblogaeth yn gostwng.

‘Angen strategaeth ar frys’

“Er ei bod hi’n gadarnhaol gweld gwelliant yn y cyfraddau goroesi ar gyfer y mathau mwyaf cyffredin o ganser, mae hi’n bryderus gweld y cyfraddau ar gyfer mathau mwy prin o ganser yn lefelu neu’n gostwng,” meddai Jon Antoniazzi, Rheolwr Polisïau a Materion Cyhoeddus Macmillan yng Nghymru.

“Mae hi’n bryderus gweld y cyfraddau goroesi ar gyfer canser y coluddyn, sy’n fath mwy cyffredin o ganser, yn lefelu neu’n gostwng.

“Mae’r data hwn yn cyfeirio at y cyfnod cyn y pandemig felly byddem yn disgwyl gweld cynnydd mewn achosion o ganser sy’n cael diagnosis yn y camau hwyrach ac yn disgwyl gweld ei effaith ar gyfraddau goroesi yn y blynyddoedd nesaf.

“Mae’r ystadegau hyn yn amlygu’r angen brys am strategaeth ganser gynhwysol sy’n gosod cyfarwyddiadau clir ynghylch sut i drawsnewid profiadau a chanlyniadau ar gyfer pobol sy’n byw â chanser yng Nghymru.

“Mae cael diagnosis cynnar yn gwneud gwahaniaeth anferth i siawns person o oroesi canser felly byddem yn annog unrhyw un sydd â symptom pryderus, parhaus – fel tagiad newydd, colli pwysau heb reswm neu waedu – i gysylltu â’u meddyg teulu cyn gynted â phosib.”

Effaith y pandemig

Does dim amheuaeth y gallai’r pandemig effeithio ar y cyfraddau ar ôl 2019, yn ôl Ian Addison, rheolwr elusen Gwasanaethau Gwybodaeth a Chymorth Canser.

“O ran cyfraddau goroesi yng Nghymru, er eu bod nhw’n gadarnhaol ar y cyfan, does dim amheuaeth y gallai’r pandemig Covid effeithio’r cyfraddau o 2020 ymlaen, gan fod y ffigurau hyn ond yn mynd at 2019,” meddai wrth golwg360.

“Rheiny fydd yr ystadegau fydd fwyaf perthnasol wrth i ni adael Covid gydag amseroedd aros am driniaethau hirach dros Gymru o ganlyniad i hynny.”

Yr ystadegau

Mae’r ystadegau yn cael eu casglu ar gyfer cyfraddau goroesi blwyddyn a chyfraddau goroesi pum mlynedd ar ôl diagnosis, a’r ffactor pwysicaf o ran goroesiad hir yw darganfod y canser yn gynnar.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at fathau gwahanol o ganser:

  • Mae cyfraddau goroesiad blwyddyn a phum mlynedd ar gyfer canser y coluddyn a’r rhefr wedi lefelu yn y blynyddoedd diwethaf, gyda gostyngiad bach rhwng 2015 a 2019.
  • Mae cyfraddau goroesiad blwyddyn a phum mlynedd wedi cynyddu dros bob bwrdd iechyd ar gyfer canser yr ysgyfaint.
  • Mae cyfraddau goroesiad pum mlynedd canser y prostad yn uwch nawr nag yn 2002.
  • Roedd gan y rhan fwyaf o’r mathau o ganser ar gafodd ddiagnosis cam 1 gyfraddau goroesi blwyddyn uchel, dros 90%.
  • Fe wnaeth 100% o bobol a gafodd ddiagnosis o ganser y prostad hyd at gam 3 oroesi blwyddyn, gyda’r gyfradd goroesi yn gostwng i 86% ar gyfer diagnosis cam 4.
  • Ar gyfer yr un cyfnod, roedd cyfraddau goroesi blwyddyn canser y fron yn 96%, ac yna’n gostwng i 62% gyda diagnosis cam 4.
  • Roedd cyfraddau goroesi pum mlynedd gyda chanser y brostad yn 99% gyda diagnosis hyd at gam 3, ac yna’n gostwng i 50% gyda diagnosis 4.
  • Gyda chanser y fron, roedd cyfraddau goroesi pum mlynedd yn 76% ar gyfer pobol gafodd ddiagnosis cam 3, ac yna’n gostwng i 21% ar gyfer diagnosis cam 4.

‘Darlun diweddaraf’

“Mae ein hystadegau newydd yn darparu’r darlun diweddaraf, mwyaf dibynadwy a chyflawn o achosion o ganser yng Nghymru,” meddai’r Athro Dyfed Wyn Huws, Cyfarwyddwr Uned Gwybodaeth a Gwyliadwraeth Canser Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Byddant yn darparu’r llinell sylfaen fwyaf dibynadwy i gymharu effaith pandemig Covid-19 ar ddiagnosis canser o 2020 ymlaen.

“Canser y prostad, canser y fron mewn menywod, canser yr ysgyfaint a’r coluddyn oedd y canserau mwyaf cyffredin o hyd yn 2019, gyda’r pedwar canser hwn yn cyfrif am dros hanner yr achosion newydd.

“Gwyddom y gallai fod modd atal hyd at bedwar o bob 10 canser yn y boblogaeth.

“Gyda nifer cynyddol o ganser bob blwyddyn gydag anghydraddoldebau eang, bydd rheoli canser yn bwysig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac ar gyfer cadw rheolaeth o ran y galw cynyddol ar y gwasanaeth iechyd.”

‘Ymrwymo i wella’

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi ymrwymo i wella gwasanaethau canser a’u canlyniadau ymhellach.

“Byddwn ni’n parhau i weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod pob cymuned ar draws Cymru’n manteisio ar gyfleoedd sgrinio ac yn symud ymlaen i gyflwyno Canolfannau Diagnosteg Cyflym.

“Mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn gweithio’n galed i weld cymaint o gleifion ag y bo modd, cyn gynted â phosib, er mwyn sicrhau bod canser yn cael ei ddal yn gynnar.

“Rydyn ni’n annog unrhyw un sy’n sylwi ar symptomau anghyffredin neu amwys i drefnu i weld eu meddyg teulu.

“Roedd gwelliannau i wasanaethau canser wedi’u cynnwys yn ein newidiadau i ofal wedi’i gynllunio ac rydyn ni eisoes wedi cyhoeddi ein dull strategol o ddelio â chanser yn y Datganiad Ansawdd ar gyfer Canser.

“Mae Rhwydwaith Canser Cymru wedi cael cais i ddatblygu cynllun gweithredu cenedlaethol er mwyn cefnogi a galluogi’r Gwasanaeth Iechyd i drefnu gwasanaethau canser.

“Mae disgwyl i ddrafft fod yn barod ym mis Medi. Yn hytrach na chyhoeddi cynllun strategol arall, rydyn ni’n parhau i ganolbwyntio ar sicrhau bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cyflawni’r camau hyn.”

Am gyngor, gwybodaeth neu sgwrs, mae modd cysylltu â Macmillan am ddim ar 0808 808 0000 neu drwy fynd i macmillan.org.uk, neu Gwasanaethau Gwybodaeth a Chymorth Canser.

‘Mae angen strategaeth ganser i Gymru er mwyn mynd i’r afael â rhestrau aros’

“Nid nawr yw’r amser i fod heb strategaeth ganser,” meddai Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, ar Ddiwrnod Canser y Byd