Mae adroddiad newydd yn nodi bod y farchnad llety gwyliau wedi crebachu ers i drethi ar lety gwyliau gael eu cynyddu yn y gobaith o sicrhau tai i bobol leol yn eu cymunedau eu hunain.

Mae’r cynnydd yn y dreth yn achosi llai o gystadleuaeth i brynu tai mewn rhai ardaloedd, gyda threfi arfordirol yn cael eu heffeithio fwyaf, yn ôl yr Audit Lab.

Y llefydd mwyaf cyffredin i brynu llety gwyliau yng Nghymru ar hyn o bryd yw Porthcawl, Prestatyn ac Abergele.

Dywed Ian Williams, uwch ymgynghorydd buddsoddi gyda Solomon Investment Partners, fod y galw am lety gwyliau “wedi gostwng yn sylweddol”.

“Gyda’r farchnad yn cael ei hysgogi gan bobol yn methu mynd dramor ar eu gwyliau, edrychodd llawer o fuddsoddwyr yn agos ar y farchnad ‘gwyliau aros gartref’ ar ôl prynu eiddo oedd â gwobrau tymor byr iddyn nhw,” meddai.

“Fodd bynnag, fe achosodd y cynnydd sydyn hwn mewn prynu llety gwyliau broblem yn enwedig i ardaloedd twristaidd, fel trefi ar lan y môr.

“Gyda llawer o eiddo wedi’i brynu i eistedd yn wag am sbel, cafodd hyn effaith ar bobol leol, felly camodd y Llywodraeth [y Deyrnas Unedig] i mewn i alluogi cynghorau lleol i godi dwywaith y dreth gyngor ar ail gartrefi nad ydyn nhw’n cael eu rhoi i’w rhentu am 70 diwrnod y flwyddyn.

“Aeth Llywodraeth Cymru gam ymhellach gan alluogi cynghorau lleol i godi pedair gwaith y dreth gyngor ar lety gwyliau.

“Mewn trefi ar lan y môr, dydy pobol leol a theuluoedd ifainc ddim wedi gallu dod yn rhan o’r farchnad dai oherwydd iddyn nhw gael eu prisio allan gan bobol sy’n barod i dalu swm mawr o arian am lety gwyliau, felly roedd hir ymaros i’r Llywodraeth gamu i mewn.

“Mae torri i lawr ar drethi yn golygu y bu cwymp o hyd at 64% yn y gystadleuaeth i brynu mewn rhai ardaloedd fel Dyfnaint – a dylwn i egluro bod hyn yn golygu cwymp mewn galw ac nid mewn gwerth.

“Mae’r casgliad hwn yn cael ei fesur drwy gymharu lefelau’r ymholiadau gyda nifer yr eiddo sydd ar gael yn yr ardaloedd hyn.

“Yr hyn mae hyn yn ei ddweud wrthym yw nad yw pobol bellach yn ceisio prynu’r llety gwyliau hyn – yn bennaf mewn trefi ar lan y môr.

“Ledled y Deyrnas Unedig, mae wedi gostwng y gystadleuaeth gan ryw 10% hyd at fis Mai 2022 o’i gymharu â’r Mai blaenorol, ac rydym yn disgwyl gweld y gwymp ganrannol yn parhau dros weddill y flwyddyn.

“I’r gwrthwyneb, fe ddigwyddodd y gwrthwyneb yn y 50 tref neu ddinas fwyaf yn y [Deyrnas Unedig], gan weld cystadleuaeth yn neidio’n ôl i fyny gan ryw 13%.

“Mae hyn yn dangos bod trefi, dinasoedd a lleoliadau mwy trefol yn gweld llawer mwy o ddiddordeb gan bobol sydd eisiau buddsoddi mewn eiddo, sy’n cyd-fynd â’r rhuthr yn ôl i ddinasoedd ar ôl Covid.”