Mae methiannau difrifol o ran rheoli arian a llywodraethiant gan gyngor tref wedi’u canfod yn Sir Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr yr wythnos hon, yn ôl adroddiad gan Archwilio Cymru.

Mae lle i gredu bod Cyngor Tref Maesteg wedi methu wrth weithredu eu rheoliadau ariannol eu hunain, a’u bod nhw wedi creu amgylchfyd lle byddai’n hawdd “ecsbloetio at ddibenion twyll”, yn ôl yr adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Fe wnaeth adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, a gafodd ei gwblhau er lles y cyhoedd, ddod o hyd i ‘lywodraethiant a rheolaeth ariannol gwael dros gyfnod hir’ yng Nghyngor Tref Maesteg, ddyddiau’n unig ar ôl i’r clerc 76 oed Margaret Buckley gael ei charcharu am dwyll gwerth £238,000.

Cafodd ei dedfrydu i ddwy flynedd a phedwar mis o garchar ar ôl cyfaddef twyllo Cyngor Tref Maesteg, a chynghorwyr oedd wedi llofnodi sieciau gwag ddefnyddiodd hi i hawlio arian gwerth £238,205.54.

Adroddiad

Roedd adroddiad arall wedi canfod anghysondeb a bylchau sylweddol yn systemau a chofnodion cyfrifo’r Cyngor, gan nodi mai cyfrifoldeb y Cyngor yw rhoi rheoliadau cywir yn eu lle.

Dywedodd, “Yn unol â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014, mae’r Cyngor yn gyfrifol am roi rheoliadau rheolaeth ariannol a rheoliadau mewnol cywir ar waith. Fodd bynnag, dydy’r trefniadau hyn ddim ond yn effeithiol os ydyn nhw’n cael eu gweithredu’n gywir.

“Pan fo Cynghorau’n methu â gweithredu trefniadau ariannol priodol, mae yna berygl o golled i bwrs y cyhoedd, a chaiff hyn ei weld yn achos Cyngor Tref Maesteg. Canfu ein hadroddiad er lles y cyhoedd fod y Cyngor wedi methu â chyrraedd y safonau lleiaf y gellid eu disgwyl o ran rheolaeth ariannol a llywodraethiant gan gyngor tref.

“Rhwng Mawrth 2016 a Rhagfyr 2019, fe wnaeth cyn-Glerc Cyngor Tref Maesteg dwyllo’r Cyngor gyda swm o £238,000 – sy’n cynrychioli hyd at 27% o wariant ac eithrio cyflogau y Cyngor yn ystod pob blwyddyn ariannol.

“Roedd methu â dilyn gweithdrefnau ariannol priodol wedi creu amgylchfyd lle roedd y cyn-glerc wedi gallu ecsbloetio er mwyn twyllo. Fe wnaeth aelodau’r Cyngor oedd yn gwasanaethu yn ystod cyfnod y cyn-glerc fethu â chraffu’n gywir ar y wybodaeth ariannol a gafodd ei chyflwyno gan y cyn-glerc.”

Nododd yr adroddiad nifer o argymhellion ar gyfer Cyngor Tref Maesteg, gan gynnwys sicrhau bod craffu priodol yn ei le o ran gwaith y clerc a’r dirprwy glerc, a sicrhau bod eu rheoliadau mewnol cywir, gan gynnwys awdurdodi taliadau, yn cael eu dilyn gan yr holl aelodau.

Pwysigrwydd rheoliadau mewnol

Yn ôl Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, mae’r troseddau yn erbyn y cyngor tref yn dangos pa mor bwysig yw rheoliadau mewnol.

“Gall methu â chwblhau gwiriadau a rheoliadau ariannol a llywodraethol gael canlyniadau difrifol i gynghorau tref,” meddai.

“Mae’r twyll yn erbyn Cyngor Tref Maesteg yn dangos pa mor bwysig yw sefydlu systemau rheolaeth ac archwilio mewnol effeithiol, a gall cynghorau tref ledled Cymru ddysgu o’r adroddiad hwn er mwyn lleihau’r perygl fod hyn yn digwydd eto.”

Yn ôl Plaid Llafur Cwm Llynfi, “Mae hon wedi bod yn bennod eithriadol o drist yn hanes balch Cyngor Tref Maesteg.

“Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio ag eraill, gan gynnwys cymuned hyfryd Maesteg, i ailadeiladu enw da’r Cyngor Tref hwn ac er mwyn i’r Cyngor ganolbwyntio o’r newydd ar wasanaethau’r gymuned rydym yn cael ein hethol i’w chynrychioli.”