Mae ansicrwydd ynghylch dyfodol prosiect sy’n rhoi pwyslais ar ddysgu am ddiwylliant wrth fynd ati i ddysgu ieithoedd lleiafrifol, yn ôl y wefan newyddion MSN.com.

Aeth y prosiect IndyLan ati i greu ap fyddai’n cyfuno’r ddwy elfen, ond does dim rhagor o arian Ewropeaidd ar gael i barhau â’r prosiect.

Cafodd IndyLan ei sefydlu gan Katerina Strani, sy’n Athro Cysylltiol ym Mhrifysgol Heriot-Watt yng Nghaeredin ac yn hanu o Roeg, a hithau wedi bod yn gweithio ar brosiect yn creu ap ar gyfer mewnfudwyr a ffoaduriaid i’w helpu nhw i ddysgu mwy am ieithoedd a diwylliannau Ewrop.

Ar ôl symud i’r Alban, dysgodd hi’r iaith Aeleg er mwyn dysgu mwy am ddiwylliant lleiafrifol yr Alban, a dechreuodd hi gydweithio â sefydliadau mewn gwledydd eraill lle mae yna ddiwylliannau lleiafrifol – gan gynnwys pobol y Sami yng ngogledd Sweden, Norwy a’r Ffindir, Cyngor Cernyw, Asociación Moviéndote ar gyfer yr ieithoedd Basgeg a Galiseg, a Learnmera Oy yn y Ffindir i’w helpu i greu’r ap.

Yn wahanol i’r apiau mwyaf cyffredin sy’n dysgu geirfa a gramadeg, bwriad IndyLan yw annog dysgwyr ieithoedd i chwarae eu rhan wrth warchod y diwylliannau mae’r ieithoedd yn rhan ohonyn nhw.

Wrth droi at yr ap, gall dysgwyr ieithoedd lleiafrifol ddysgu mwy am gerddoriaeth, gwyliau diwylliannol, bwydydd ac arferion y gwahanol wledydd a’u pobol.

Yn ôl Katerina Strani, dydy dysgu geirfa a gramadeg ddim yn ddigon ar eu pennau eu hunain, gan y gall diwylliant chwarae rhan bwysig wrth roi cliwiau i ddysgwyr am darddiad y geiriau neu’r gystrawen dan sylw, ac felly dydy dysgwyr geirfa a gramadeg yn unig ddim yn gallu gwerthfawrogi ieithoedd yn yr un modd heb fod ganddyn nhw rywfaint o wybodaeth am y diwylliant.

Mae’r ap hefyd yn mynd i’r afael â phroblemau sy’n codi mewn tiriogaethau fel Cernyw lle nad ydyn nhw’n llywodraethu eu hunain ac mae angen iddyn nhw droi at lywodraethau fel y Deyrnas Unedig am gymorth.