Mae’r diffyg cynnydd o ran nifer y bobol sydd mewn gwaith yng Nghymru yn “anfaddeuol”, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Cyfradd gyflogaeth Cymru yn y tri mis hyd at fis Mehefin 2022 oedd 72.7%, sydd 1.4% yn is na’r chwarter blaenorol a 1.4% yn is na’r un adeg y llynedd.

75.5% oedd y gyfradd gyflogaeth dros y Deyrnas Unedig, sydd 0.5% na llynedd ond yn ostyngiad bychan o gymharu â’r chwarter blaenorol.

Fodd bynnag, mae cyfraddau diweithdra yn parhau’n isel ar 3.8%, sef yr un lefel â’r cyfartaledd dros y Deyrnas Unedig.

Mae hynny 0.8% yn uwch na’r tri mis blaenorol yng Nghymru, a 0.3% yn uwch na’r adeg hon y llynedd.

‘Anfaddeuol’

“Unwaith eto, rydyn ni’n cael ein hatgoffa bod niferoedd swyddi Cymru’n gostwng yn gyson gyda Llafur wrth y llyw, tra bod cyfraddau cyflogaeth y Deyrnas Unedig wedi tyfu eleni,” meddai Paul Davies, llefarydd economi’r Ceidwadwyr Cymreig, wrth ymateb i’r ystadegau.

“Mae’r diffyg cynnydd hwn o ran cyfraddau cyflogaeth yn anfaddeuol.

“Cymru sydd â’r pecynnau tâl isaf yn y Deyrnas Unedig hefyd, gyda gweithwyr yng Nghymru’n methu allan ar £3,000, fyddai’n help anferth i deuluoedd ar hyn o bryd, y flwyddyn.

“Ni all camreolaeth Llafur o economi Cymru barhau. Dylen nhw ddechrau drwy gael gwared ar gynlluniau ar gyfer trethi newydd a chynlluniau i greu mwy o swyddi i wleidyddion a chanolbwyntio ar swyddi i bobol Cymru.”

‘Gwrthod buddsoddi’

Dywedodd Llefarydd Llywodraeth Cymru: “Mae cyfradd diweithdra Cymru ar yr un lefel a ffigwr y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd ac yn eistedd yn rheolaidd yn is na’r cyfartaledd hwnnw – yn wahanol i’r tueddiadau cyn datganoli.

“Am dros ddegawd, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi caniatáu i gyflogau ostwng i fod yn rhan o’r economi ac wedi gwrthod buddsoddi yn y prosiectau a’r diwydiannau a allai helpu Cymru i ffynnu mewn economi gytbwys yn y Deyrnas Unedig.

“Mae cyfleoedd twf mawr mewn sectorau fel ynni adnewyddadwy wedi cael eu gwrthod o blaid cyni ac addewidion ffug ar godi’r gwastad.

“Mae ein Cenhadaeth Economaidd yn canolbwyntio ar ddefnyddio’r modd sydd gennym i gulhau’r rhaniad sgiliau, cefnogi swyddi gwell a mynd i’r afael â thlodi.

“Bydd ein cynllun cyflogadwyedd a sgiliau newydd yn parhau i flaenoriaethu’r rhai sydd fwyaf angen cymorth yn yr argyfwng yma.”