“Sortiwch eich materion eich hunain cyn cymryd mwy o ddŵr Cymru”, oedd ymateb Plaid Cymru yn dilyn awgrym y dylid mynd â dŵr o Gymru i Lundain.
Undeb GMB sydd wedi gwneud yr awgrym, a fyddai’n golygu bod dŵr gan United Utilities yn Llyn Llanwddyn ym Mhowys yn cael ei gludo drwy gamlesi’r Cotswolds a Thwnel Camlas Sapperton yng Nghaerloyw i Afon Tafwys.
Yn ôl GMB Llundain, gallai’r cynllun helpu i fynd i’r afael â chyfnodau o sychder yn Llundain a’r ardal.
Fodd bynnag, mae Elwyn Vaughan, arweinydd Plaid Cymru ym Mhowys, yn gwrthwynebu’r cynlluniau.
“Sortiwch eich materion eich hunain a stopiwch drio mynd â’r holl adnoddau o Gymru drwy’r amser,” meddai Elwyn Vaughan.
“Rydych chi’n talu swm bychan am yr hyn sydd wedi’i gymryd yn barod, 3c y dunnell neu 1,000 litr.
“Ac eto mae rheolwyr y diwydiant dŵr ar gyflogau anferth gydag adroddiadau bod rheolwyr Thames Water wedi cael tâl ychwanegol o £2.4m yn 2020 a 2021 er bod y cwmni wedi colli hyd at chwarter ei ddŵr gan fod y systemau’n gollwng.
“Yn yr un ffordd, adeiladwch y gronfa newydd hirddisgwyledig yn Abingdon, cynllun sydd wedi bodoli ers 2006 ac ailddechreuwch gynllun i dynnu halen o’r dŵr er mwyn helpu pethau.
“Mae’r Gateway Water Treatment Work yn Beckton yn nwyrain Llundain yn cymryd dŵr o Aber Tafwys, yn ei drin ac yn creu dŵr yfed. Cafodd ei gwblhau yn 2010 er mwyn cael ei ddefnyddio ar dywydd sych.
“Mae ganddo’r capasiti i gyflenwi hyd at 100 miliwn litr o ddŵr y dydd – a chafodd ei ddefnyddio yn ystod cyfnodau o dywydd sych er mwyn helpu cronfeydd Thames Water yn Llundain – ond eto mae wedi cael ei ddiffodd yn ystod y cyfnod poeth yma!”
Yn ôl Thames Water, dydy’r safle ddim yn gweithio ar hyn o bryd ac mae timau yn gweithio mor sydyn â phosib er mwyn gallu ei ddefnyddio eto flwyddyn nesaf.
‘Adnodd gwerthfawr’
“Mae hyn yn amlygu’r angen i weld dŵr fel adnodd gwerthfawr, rhywbeth sylfaenol, ac mae Cymru ddigon ffodus i’w gael, fodd bynnag ni fedrwn ni ganiatáu iddo gael ei gymryd a’i ddefnyddio gan gwmnïau mawr a’i roi ffwrdd tra bod ein cymunedau’n cael tâl bychan amdano,” meddai Elwyn Vaughan wedyn.
“Dychmygwch y buddion i Bowys pe baem ni’n cael ceiniog y litr amdano – byddai problemau ariannol ein gwasanaethau cyhoeddus lleol yn cael eu datrys.
“Llundain – ewch.”
‘Datrysiad ymarferol’
Wrth drafod y cynllun, dywed trefnydd rhanbarthol GMB yn Llundain ei fod yn ddatrysiad ymarferol yn ariannol ac yn ateb sy’n cyd-fynd â synnwyr cyffredin.
“Wrth i ni brofi cyfnod arall cwbl ragweladwy o sychder dros yr haf, mae GMB yn galw eto ar wleidyddion a’r cyhoedd i annog Thames Water i weithredu cynllun a gafodd ei ddatblygu gan y Fictoriaid er mwyn symud dŵr o orllewin y Deyrnas Unedig drwy’r Hafren, camlesi’r Cotswolds a thwnel Sapperton i Afon Tafwys,” meddai Mark Holland.
“Cafodd y cynllun ei gynnwys yng nghynllun drafft Thames Water yn 2019 er mwyn cyflenwi dŵr i Lundain yn y 21ain ganrif ond nid yw wedi cael ei gynnwys yn rhestr bwriadau Thames Water.
“Dydy dŵr ddim yn rhywbeth sy’n brin yn y Deyrnas Unedig, i’r gwrthwyneb, rydyn ni’n defnyddio llai na 2% o’r dŵr sy’n disgyn bob blwyddyn ac sy’n llifo i’r moroedd.
“Mae gan hyn y capasiti i gyflenwi 300 miliwn litr bob diwrnod ac ar ben hynny byddai’r camlesi’n cael eu hadnewyddu i bobol eu mwynhau.
“Mae hi’n haws gwneud hyn nag adeiladu cronfa newydd, gydag ôl-troed carbon yr un maint â Maes Awyr Heathrow, yn Abingdon.”