Mae Ian ‘H’ Watkins, un o ddau aelod Cymreig y band Steps, wedi sefydlu’r dathliad Pride cyntaf erioed yn y Bont-faen.

Mae’r canwr pop, sy’n hoyw, wedi byw yn y dref gyda’i blant ers saith mlynedd.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng Medi 19-25, er mwyn codi ymwybyddiaeth o amrywiaeth, cynhwysiant a chynrychiolaeth i’r gymuned LHDTC+ yn y dref.

Yn ystod yr wythnos, fe fydd amrywiaeth o ddigwyddiadau, gweithgareddau, arddangosfeydd celf, addysg, sgyrsiau ac arddangosfeydd amrywiol, gyda’r holl elw’n mynd i ysgolion yr ardal er mwyn prynu adnoddau LHDTC+.

Bydd y digwyddiad codi arian mwyaf yn ystod yr wythnos, sydd wedi’i noddi gan Bont Gin, yn cael ei gynnal yng Ngwesty’r Bear, a’i gyflwyno gan ddyn tywydd y BBC Owain Wyn Evans, Tina Sparkle a H.

Cafodd yr holl docynnau eu gwerthu o fewn awr, ond mae tocynnau ar gael o hyd ar gyfer digwyddiadau eraill, gan gynnwys disgo yn yr Horse & Groom, Sioe Ffasiwn Pride yng Ngwesty’r Bear, ‘Boozy Brunch’ yn Bont Gin, a sesiwn holi ac ateb am faterion LHDTC+ yn Neuadd y Dref y Bont-faen.

Mae cwrw arbennig yn cael ei fragu ar gyfer yr achlysur gan Coach Brewing Co, a bydd hwnnw ar gael mewn sawl lleoliad yn y dref, gyda phunt o bris pob peint yn mynd at yr achos.

‘Mae’r byd wedi newid’

“Mae’r byd wedi newid ers i fi gael fy magu,” meddai ‘H’.

“Dw i eisiau i fy mhlant dyfu lan yn dathlu amrywiaeth a chynrychiolaeth.

“Mae’n bwysig fod y Bont-faen yn adlewyrchu hynny.

“Fy mhrosiect angerdd yw hwn, yn rhywbeth dw i wedi bod eisiau ei wneud ers sbel, ac mae’n digwydd eleni.

“Mae gyda ni lawer o bethau cyffrous wedi’u cynllunio, gyda rhagor i gael ei gyhoeddi eto, ond megis dechrau yw hyn.

“Rydyn ni eisioes yn cynllunio ar gyfer Pride y Bont-faen 2023, ac allwn ni ddim aros i rannu’r digwyddiad arbennig hwn gyda phawb.”

‘Rhoi cwtsh i Wythnos Pride’

Un sy’n croesawu’r digwyddiad yw un arall o drigolion y dref, y gantores Caryl Parry Jones.

“Dw i’n byw yn y Bont-faen ers 34 o flynyddoedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw, dw i wedi gweld newidiadau anferth yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol,” meddai.

“Mae’n destun llawenydd a dathliad fod y Bont-faen wedi rhoi cwtsh anferth i Wythnos Pride ac yn derbyn nad oes gan gariad ffiniau a bod y byd yn perthyn i ni i gyd.”

Mae nifer o fusnesau lleol, gan gynnwys yr asiantaeth gyfathrebu jamjar a milfeddygon Maes Glas, yn cefnogi’r digwyddiad gyda nawdd a chefnogaeth pro bono.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy fynd i www.cowbridgepride.com neu drwy ddilyn @CowbridgePride ar Instagram a Facebook.