Mae cynllun newydd i ehangu addysg Gymraeg yng Nghasnewydd wedi cael ei gymeradwyo, ond yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae angen i bob ysgol fod yn rhai Cymraeg erbyn 2050.
Nod Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSGA) Cyngor Dinas Casnewydd ydy cynyddu nifer y disgyblion Blwyddyn 1 sy’n cael mynediad at addysg Gymraeg.
Yn 2021, roedd 5.1% o’r disgyblion yn derbyn addysg Gymraeg, a’r nod yw rhoi addysg Gymraeg i 11.1% o’r dysgwyr erbyn 2032.
Cafodd y cynllun, sy’n ymdrin â’r cyfnod rhwng Medi eleni ac Awst 2032, ei gymeradwyo’n ffurfiol gan Lywodraeth Cymru dros yr haf.
‘Wedi methu’
Ond yn ôl Toni Schiavone, cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith, mae’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg “wedi methu”.
“Mae angen cynllunio a gosod nod i gynyddu’r nifer sy’n derbyn addysg Gymraeg, wrth gwrs, ond mae system Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) wedi methu,” meddai wrth golwg360.
“Dim ond anelu at rywfaint o gynnydd maen nhw, fel yn yr achos yma, a does dim canlyniadau os nad yw targedau yn cael eu cyrraedd.
“Os ydy’r Llywodraeth o ddifrif eisiau sicrhau bod pob plentyn yn gadael yr ysgol yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl mae angen dileu system y CSGA’au a rhoi pob ysgol ar gontinwwm tuag at fod yn ysgol Gymraeg erbyn 2050.
“Dyna un brif nod y Ddeddf Addysg Gymraeg i ni ei chyhoeddi yn yr Eisteddfod. Mae sicrhau bod pob ysgol yn dysgu trwy’r Gymraeg erbyn 2050 yn hollol bosibl ag ewyllys gwleidyddol.
“Byddwn ni’n cyhoeddi targedau cyraeddadwy ar gyfer cyflawni hynny yn yr Hydref.
“Mae’r Llywodraeth yn paratoi i gyhoeddi papur gwyn Deddf Addysg Gymraeg arfaethedig erbyn diwedd y flwyddyn ac mae cyfle trwy’r ddeddf i drawsnewid y system addysg ym mhob rhan o Gymru er mwyn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael ei amddifadu o addysg Gymraeg.”
‘Llwybr ymarferol’
Mae cynllun Casnewydd yn nodi eu bwriad i lenwi lleoedd meithrin mewn ysgolion Cymraeg presennol, yn ogystal â chreu 100 o leoedd newydd ledled y ddinas.
Maen nhw’n hefyd yn anelu at greu 60 o leoedd derbyn ychwanegol, ynghyd â’r 60 sy’n cael eu cynnig yn Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli.
Gweledigaeth Cyngor Casnewydd yw sicrhau y gall pawb yng Nghasnewydd “ddefnyddio, gweld a chlywed y Gymraeg fel iaith fyw ym mhob rhan o fywyd ar draws y ddinas” ymhen deng mlynedd.
Mae’r cynllun hefyd yn nodi camau i gynyddu nifer y dysgwyr Cymraeg sy’n defnyddio’r Gymraeg tu allan i’r ystafell ddosbarth, cynyddu nifer y dosbarthiadau i ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol sy’n dysgu drwy’r Gymraeg, a chynyddu nifer yr athrawon a’r staff sy’n gallu dysgu Cymraeg ac yn y Gymraeg.
Wrth sôn am y cynllun, dywedodd y Cynghorydd Deb Davies, dirprwy arweinydd y cyngor a’r aelod cabinet dros addysg a’r blynyddoedd cynnar, ei bod hi’n “falch iawn” fod y cynllun wedi cael cymeradwyaeth ffurfiol gan Lywodraeth Cymru.
“Nid yn unig mae’r cynllun yn amlinellu llwybr ymarferol i fodloni disgwyliadau’r llywodraeth, ond mae hefyd yn adlewyrchu ein huchelgeisiau fel cyngor ar gyfer lle rydym am weld addysg cyfrwng Cymraeg ymhen deng mlynedd,” meddai.
“Hoffwn ddiolch i’n swyddogion am eu gwaith yn rhoi’r cynllun hwn at ei gilydd, ynghyd â’n holl bartneriaid a gyfrannodd at y broses.”