Mae datblygwr wedi cael caniatâd i godi wyth tŷ newydd ar gyfer perfformwyr teithiol yn dilyn penderfyniad pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Conwy, er gwaetha’r ffaith fod swyddogion y cyngor wedi cynghori cynghorwyr i wrthwynebu’r cynigion.

Bydd yr wyth cartref newydd ar Fferm y Gors yn Nhywyn gweld nifer y cartrefi ar y safle presenol yn codi o 13 i 21.

Cafodd y cais cynllunio ei gyflwyno gan Mr C Holdren, ac fe fydd yn darparu cartrefi i aelodau o’r gymuned o Deithwyr sy’n gweithio yn y diwydiant ffeiriau ac arcedau Tywyn.

Ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru wedi bod yn gwrthwynebu’r cynlluniau o ganlyniad i’r perygl o lifogydd ar wyneb y ffordd, ac fe wnaeth swyddogion y Cyngor gynghori y dylid gwrthod y cynlluniau.

Ond roedd nifer o gynghorwyr yn credu bod y perygl o lifogydd yn llai pwysig na’r angen i gefnogi’r economi leol.

‘Synnu’

Roedd y Cynghorydd Nigel Smith yn un o nifer o gynhgorwyr oedd yn credu y dylid rhoi’r golau gwyrdd i’r datblygwr.

“Ces i fy synnu braidd nad oedden ni’n cael ymweliad safle ar gyfer y cais hwn, ond dim ond ar un peth mae o wedi methu mewn gwirionedd, sef y perygl o lifogydd, sy’n syndod i mi oherwydd os ydych chi’n teithio ar hyd arfordir Tywyn a Bae Cinmel, mae’n sefyll allan yn fawr iawn,” meddai.

“Mae’n ardal tir uchel iawn ac yn hynod weladwy.”

Darllenodd y Cynghorydd Smith ganllawiau cynllunio wedyn, gan egluro na ddylid rhoi caniatâd cynllunio mewn parth heb lifogydd oni bai bod y Cyngor yn gallu cyfiawnhau hynny yn nhermau adfywiad neu gynnal safle presennol.

“Rydym yn gwybod eisoes drwy ein hasesiad teithio ac anghenion fod yna angen i’r unedau ychwanegol hyn ar gyfer y gymuned Teithwyr, a bydd hynny’n helpu i gynnal y gymuned honno, felly dw i’n teimlo ei fod o’n gweddu’n dda efo hynny,” meddai.

“Mae angen iddo hefyd gyfrannu at gyflogaeth allweddol. Tywyn a Bae Cinmel, fwy na thebyg, ydi’r unig ardal yng Nghonwy sydd â chyfran uchel o berfformwyr sioeau teithiol.

“Mae gennym ni ddwy ffair, arcedau, siopau byrgyrs, caffis, unedau manwerthu, ac maen nhw i gyd yn cael eu rhedeg gan berfformwyr sioeau a’u teuluoedd.

“Felly dw i’n meddwl ei fod o’n cyfrannu at gyflogaeth allweddol.”

Canlyniad

Cynigiodd y Cynghorydd Andrew Wood y dylai’r pwyllgor gefnogi’r cynlluniau, a chafodd hynny ei eilio gan y Cynghorydd Nigel Smith.

Pleidleisiodd cynghorwyr yn unfrydol o blaid cefnogi’r cynlluniau.

Bydd y cais yn dychwelyd i’r adran gynllunio ym mis Medi i gael cadarnhad gan fod cynghorwyr wedi mynd yn groes i gyngor swyddogion.