Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn creu hanes drwy fod yr heddlu cyntaf yng Nghymru i lansio gwasanaeth cofnodi DNA cŵn.
Mae DNA Protected gan wasanaethau fforensig Cellmark wedi cael ei gynllunio i helpu i atal torcyfraith ac i sicrhau bod modd dychwelyd cŵn i’w perchnogion os ydyn nhw’n mynd ar goll.
Wedi’r lansiad heddiw (dydd Mercher, Awst 17), bydd perchnogion cŵn yn gallu prynu cit profion DNA, cynnal profion a sicrhau bod DNA eu cŵn wedi’i gofnodi ar gronfa ddata genedlaethol.
Cafodd y gwasanaeth ei lansio yn ardal Heddlu Swydd Gaerloyw, ac mae’n defnyddio system marcwyr DNA sydd wedi cael ei ddatblygu ar gyfer dadansoddi fforensig i helpu i ymchwilio i droseddau fel dwyn cŵn.
Bydd storio proffil DNA cŵn ar gronfa ddata’n sicrhau ei fod e ar gael i’r heddlu mewn achosion lle mae ci ar goll neu wedi cael ei ddwyn ac os caiff ei feddiannu, fod modd gwirio DNA y ci, adnabod y perchennog a’i ddychwelyd iddyn nhw.
Mae’r cit hefyd yn cynnwys sticeri a thagiau coler er mwyn ceisio atal achosion o ddwyn.
‘Aelod o’r teulu’
“Mae ci anwes yn cael ei ystyried yn aelod o’r teulu, ac rydym yn deall pa mor bryderus y gall fod pan gaiff anifeiliaid anwes eu dwyn neu’n mynd ar goll,” meddai’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Steve Cockwell.
“Caiff pob adroddiad o gi wedi’i ddwyn ei gymryd o ddifri, a bydd y gwasanaeth DNA Protected yn cynorthwyo wrth uno cŵn sydd ar goll neu wedi’u dwyn gyda’u perchnogion, ac yn helpu i adnabod y math yma o drosedd.”
Mae gwasanaethau fforensig Cellmark wedi croesawu’r datblygiad yn ardal Heddlu Dyfed-Powys.
“Rydym wrth ein boddau fod Heddlu Dyfed-Powys yn ymuno â’r nifer cynyddol o heddluoedd sy’n defnyddio DNA Protected er mwyn helpu i frwydro yn erbyn achosion o ddwyn cŵn,” meddai David Hartshorne, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni.
“Wedi’i ddatblygu gyda’r heddlu, mae DNA Protected yn defnyddio grym gwyddoniaeth fforensig i gael mynediad i system adnabod unigryw natur.
“Does dim modd colli, newid neu ddileu cod DNA cŵn, ac fe fydd yn aros gyda’r ci am byth.”
Mae’r cit ar gael am £74.99 ond bydd modd i unrhyw un sy’n mynd i Sioe Sir Benfro brynu un am £59.99, sy’n ostyngiad o £15, ac mae’r gronfa ddata ar gael i berchnogion cŵn ledled y wlad.