Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth ganser ar gyfer Cymru gyfan, i fynd i’r afael â’r rhestr o bobol sy’n aros am driniaethau a diagnosis, yn ôl Plaid Cymru.
Ar Ddiwrnod Canser y Byd heddiw (dydd Gwener, Chwefror 4), mae Plaid Cymru’n galw am ganolfannau diagnosis, ac am roi’r gorau i’r loteri cod post.
Mae Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru yn y Senedd, yn dweud bod angen cynllun ar Gymru ar frys er mwyn mynd i’r afael â’r rhestrau aros a phrinder staff.
Mae hi’n ddwy flynedd ers i Gymru gael strategaeth ganser, sy’n mynd yn groes i argymhelliad Sefydliad Iechyd y Byd y dylai pob gwlad gael un.
Bob blwyddyn, mae tua 20,000 o bobol yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser ac mae tua 170,000 yn byw â’r afiechyd.
Rhai o ganlyniadau gwaethaf Ewrop
Dywed Rhun ap Iorwerth fod effaith y pandemig ar driniaethau a diagnosis canser yn un “ddinistriol”.
“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynllun i fynd i’r afael â’r ôl-groniad a’r prinderau staff sydd wedi cael eu creu gan y pandemig fel rhan o strategaeth ganser ehangach ar gyfer Cymru ar frys, er mwyn blaenoriaethu diagnosis cynnar, adnabod y miloedd o bobol sydd heb gael diagnosis eto, a sicrhau gofal priodol i’r cleifion hynny sydd yng nghamau hwyrach y canser ac a fydd angen triniaethau mwy cymhleth,” meddai.
“Nid nawr yw’r amser i fod heb strategaeth ganser.
“Mae gan Gymru rai o’r canlyniadau gwaethaf yn Ewrop o ran canser, a bydd hyn yn gwaethygu oni bai bod gweithredu ar y mater.
“Yn y cyfamser, unrhyw un sy’n poeni, unrhyw un â symptom, plîs gwnewch apwyntiad gyda’ch meddyg teulu.”
‘Haeddu cydraddoldeb’
Dywed Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, y dylid gwneud sicrhau diagnosis cynnar a llenwi bylchau yn y gweithlu yn flaenoriaethau.
Mae’r mater yn agos at galon Mabon ap Gwynfor gan fod ei dad, Guto, wedi cael diagnosis o ganser yn 2019, ac wedi bod yn derbyn triniaeth drwy gydol y pandemig.
Mae’n dweud bod diagnosis cynnar yn “hanfodol” ar gyfer gwella cyfraddau goroesi canser Cymru.
“Mae’n rhaid i unrhyw strategaeth ganser gynnwys cynlluniau hirdymor i sicrhau diagnosis cynnar, ac mae unrhyw ddatblygiadau o ran Canolfannau Diagnosis Sydyn i’w croesawu, ond i fynd i’r afael â chanser mewn ffordd ystyrlon mae’n rhaid i ni lenwi’r bylchau anferth yn y gweithlu,” meddai.
“Mae’n rhaid i flaenoriaethau’r strategaeth i drin a churo canser adlewyrchu sut mae’r canolfannau diagnosis sydyn yn cael eu staffio, a sut mae recriwtio staff diagnosis a thriniaethau canser yn y tymor hir.
“Dyw canser ddim yn poeni am ddaearyddiaeth, ond mae cleifion yn poeni. Maen nhw’n haeddu gwasanaethau cydradd, ble bynnag maen nhw’n byw.”
Ychwanega fod gan Loegr a’r Alban strategaethau canser, a’u bod nhw’n “rhoi targedau clir iddyn nhw, ac yn sicrhau ffocws”.
“Ond does gan Gymru ddim strategaeth gynhwysfawr,” meddai wedyn.
“Yn hytrach, mae gennym ni nifer o raglenni a fframweithiau anhrefnus.
“Os ydyn ni o ddifrif ynghylch mynd i’r afael â chanser, yna rydyn ni angen strategaeth ganser.”