Bydd bron i £11m yn cael ei fuddsoddi mewn canolfan ragoriaeth ar gyfer canser y fron yn Ysbyty Ystrad Fawr yn Ystrad Mynach mewn ymgais i wella gofal i gleifion.

Bydd y buddsoddiad yn dwyn gwasanaethau ac arbenigwyr ynghyd o bob rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Bydd y timau clinigol o Ysbyty Nevill Hall ac Ysbyty Brenhinol Gwent yn dod ynghyd i ddarparu gwasanaeth mwy gwydn ac effeithiol mewn cyfleuster pwrpasol er mwyn “diwallu anghenion pobol Gwent yn well”, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Daw’r cyhoeddiad ar Ddiwrnod Canser y Byd heddiw (dydd Gwener, Chwefror 4).

Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan, mae’r buddsoddiad yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau canser a helpu byrddau iechyd i drawsnewid gwasanaethau clinigol.

“Wrth inni nodi Diwrnod Canser y Byd, mae’n gyfle i fyfyrio ar yr effaith fawr y mae canser yn ei chael ar ein cymdeithas a thynnu sylw at y buddsoddiadau pwysig rydym yn eu gwneud i sicrhau gofal gwell i gleifion,” meddai.

“Byddwn yn parhau i sicrhau bod gwasanaethau canser yn cael y sylw y maen nhw’n eu haeddu wrth inni ddod allan o’r pandemig.”

Nod Eluned Morgan yw gwella effeithlonrwydd gwasanaethau er mwyn lleihau amseroedd aros ar gyfer gofal canser.

Daw hyn wrth i’r data diweddaraf am berfformiad a gweithgarwch y Gwasanaeth Iechyd ddangos bod lefelau gweithgarwch mewn gwasanaethau canser wedi cynyddu yn ystod mis Tachwedd.

Roedd nifer y cleifion oedd wedi cael diagnosis newydd o ganser ac wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf, wedi cynyddu i’r lefel uchaf ers i ddata cymharol ddechrau cael ei gasglu ym mis Mehefin 2019.

Ymateb y bwrdd iechyd

“Gyda’r ganolfan newydd yn gweithredu fel ‘canolfan ragoriaeth’ ar gyfer gwasanaethau canser y fron, bydd ein clinigwyr arbenigol wedi’u lleoli’n ganolog mewn cyfleuster pwrpasol,” meddai Glyn Jones, Prif Weithredwr dros dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

“Yno, byddan nhw’n darparu gofal arbenigol i gleifion sydd â chanser y fron mewn un lle. Rydym yn edrych ymlaen at weld y gwaith o adeiladu’r cyfleuster yn datblygu dros y misoedd nesaf.”

Mae’r data hefyd yn dangos cynnydd yn nifer y cleifion a gafodd wybod nad oedd ganddyn nhw ganser, o’i gymharu â’r mis blaenorol, i’r ail lefel uchaf ers i’r data hyn ddechrau cael ei gasglu ym mis Rhagfyr 2020.

Wrth edrych i’r dyfodol, mae Mia Rosenblatt, Cyfarwyddwr Cyswllt Polisi, Tystiolaeth a Dylanwadu Breast Cancer Now, yn dweud bod y buddsoddiad yn helpu i gynllunio ar gyfer lefelau staffio.

“Mae hefyd yn gyfle pwysig i fynd i’r afael â materion ehangach o ran recriwtio a chadw staff ar draws y gweithlu canser, a diogelu gwasanaethau canser ar adeg pan maen nhw’n wynebu heriau enfawr wrth ddelio â’r ôl-groniad o drin pobol sy’n cael diagnosis o ganser y fron,” meddai.