Bydd Amgueddfa Cymru’n prynu Melin Teifi yn Sir Gaerfyrddin, a’i chasgliad o beiriannau gwehyddu, wrth i’r felin gau ei drysau.

Mae’r felin yn Nhre-fach Felindre wedi bod yn gwehyddu gwlân traddodiadol ers 40 mlynedd, ac mae’r safle eisoes yn gartref i Amgueddfa Wlân Cymru.

Cafodd Melin Teifi ei sefydlu yn 1982 gan Raymond a Diane Jones ar ôl i Felin Cambrian, lle buodd y ddau yn gweithio am 18 mlynedd, gau.

Ddwy flynedd wedyn, symudodd Melin Teifi i safle’r hen felin Cambrian yn Nhre-fach Felindre, a byth ers i’r safle ddod yn gartref i’r Amgueddfa Wlân, mae Melin Teifi wedi bod yn rhan annatod o brofiad ymwelwyr.

Drwy’r cytundeb, bydd peiriannau’r felin yn aros yn eu lle a bydd yr Amgueddfa Wlân yn eu gwarchod a’u defnyddio i barhau â thraddodiad gwehyddu gwlân Cymru pan fydd y felin yn cau yn 2023.

‘Symud y diwydiant yn ei flaen’

Dywedodd Raymond Jones, cyd-sefydlydd y felin, bod gwaith yr Amgueddfa’n “bwysig iawn”.

“Maen nhw’n mynd i symud y diwydiant yn ei flaen, dod â phobl mewn i ddysgu ac i redeg y ffatri, a chadw’r diwydiant yn fyw,” meddai.

“Mae Dre-fach Felindre wedi bod yn rhan o’r diwydiant gwlân ers canrifoedd.

“Mae’r ffaith bod yr Amgueddfa yma yn dangos fod y pentref yn ganolog i’r diwydiant gwlân, ac mae’n bwysig iawn bod hynny’n parhau.”

‘Cynnal y traddodiad’

Yn ôl Ann Whittall, Pennaeth Amgueddfa Wlân Cymru, bydd bod yn berchen ar y peiriannau a’r gwyddiau hanesyddol yn golygu eu bod nhw’n gallu “cynnal traddodiad gwehyddu gwlân yng Nghymru i genedlaethau’r dyfodol”.

“Bydd yn galluogi ein crefftwyr i barhau â’u hyfforddiant a datblygu eu sgiliau wrth iddynt gynhyrchu carthenni gwlân o safon.

“Bydd gweld y peiriannau hyn wrth eu gwaith yn gwella profiad ymwelwyr, ac yn dod â hanes yn fyw iddynt. Byddant yn gallu dysgu wrth wylio ein crefftwyr, a bydd hyn yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wehyddion.”

Bydd yr Amgueddfa Wlân yn parhau i gadw’r traddodiad gwehyddu gwlân yn fyw, drwy gynnal a chadw a defnyddio’r hen beiriannau, a thrwy waith y crefftwyr.

Mae arwyddocâd cenedlaethol i’r ffaith bod Amgueddfa Cymru yn prynu Melin Teifi, meddai Daniel Harris o’r London Cloth Company sydd wedi bod yn cefnogi hyfforddiant crefftwyr yn Amgueddfa Wlân Cymru.

“Wrth i felinau gau dros y blynyddoedd diwethaf, does dim olyniaeth fel arfer – mae’r casgliad yn mynd ar wasgar a’r rhan fwyaf yn cael ei sgrapio.”