Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar wella profiadau pobol sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol heddiw (Awst 17).

Mae’r ymgynghoriad yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ac mae’r cynigion yn canolbwyntio ar ddarpariaeth gofal preswyl preifat i blant a gofal maeth yn y sector annibynnol.

Gweledigaeth Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yw y bydd gofal plant mewn gofal yng Nghymru yn y dyfodol yn cael ei ddarparu gan sefydliadau’r sector cyhoeddus, sefydliadau elusennol neu sefydliadau nid-er-elw, ac y bydd arian cyhoeddus sy’n cael ei fuddsoddi yng ngofal plant mewn gofal yn cael ei wario ar sicrhau profiadau a chanlyniadau gwell.

Bydd yr ymgynghoriad, sy’n cael ei lansio gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, yn ceisio barn ar ddeddfwriaeth arfaethedig i gefnogi’r ymrwymiad i ddileu’r gallu i greu elw o ofal plant mewn gofal.

‘Plant wrth wraidd popeth’

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: “Ein huchelgais yw ailgynllunio sut rydym yn gofalu am blant a phobol ifanc ac mae dileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal yn rhan allweddol o hyn.

“Mae plant wth wraidd popeth a wnawn, ac maent wedi dweud wrthym nad ydynt am gael gofal gan sefydliadau preifat sy’n gwneud elw o’u profiad o fod mewn gofal. Ni ddylid gwneud elw o ofalu am blant sy’n wynebu heriau yn eu bywydau.”

“Rwy’n benderfynol ein bod yn parhau i wella ansawdd profiadau pawb sy’n defnyddio ein gwasanaethau gofal cymdeithasol.

“Mae’r ymgynghoriad hwn yn nodi sut y bydd ein cynigion yn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth ehangach ar gyfer y gofal a’r cymorth sydd ar gael i deuluoedd, plant a phobl ifanc.

“Bydd hefyd yn cryfhau llais a rheolaeth pobl anabl a difrifol sâl, â’u gofalwyr, ymhellach, gan gefnogi pobl i gynnal eu hannibyniaeth.

“Edrychaf ymlaen at ymwneud â phawb sydd â diddordeb mewn parhau i wella ein system iechyd a gofal cymdeithasol.”

‘Hanfodol dileu elw’

Dywedodd Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian: “Rwy’n credu bod dileu elw o ofal plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal yn hanfodol i wella bywydau rhai o’n dinasyddion mwyaf agored i niwed.

“Wrth weithio gyda Llywodraeth Cymru, mae Plaid Cymru yn edrych ymlaen at weld fframwaith newydd ar waith a fydd yn dileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal, fel rhan o’n cred y dylid, pan fo’n bosib’, wrthdroi’r duedd yn y sector cyhoeddus o roi gwaith allan.”

Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan Tachwedd 7 2022.