Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ysgrifennu at Gadeirydd Ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig yn dweud nad yw edrych ar Gymru “yn achlysurol” yn ddigonol.
Bydd adran gyntaf ymchwiliad y Farwnes Hallett yn edrych ar wydnwch a pha mor barod oedd y Deyrnas Unedig ar gyfer y pandemig.
Bydd yr ail yn edrych ar lywodraethiant a phenderfyniadau’n ymwneud â’r pandemig gan y llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, tra bydd y drydedd adran yn ystyried effaith Covid-19 ac ymatebion y llywodraethau a’r gymdeithas ar systemau gofal iechyd, cleifion, ysbytai a staff gofal iechyd eraill.
Dim ond yr ail adran fydd yn rhoi sylw penodol i Gymru,.
Mae gwleidyddion ac ymgyrchwyr wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad Covid penodol i Gymru, ond mae Mark Drakeford wedi gwrthod dro ar ôl tro gan ddweud bod rhaid ystyried y cyd-destun ehangach er mwyn craffu ar benderfyniadau a gafodd eu gwneud yng Nghymru.
‘Codi ofnau’
Yn ei lythyr at y Farwnes Hallett, dywed Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, ei fod yn “bryderus bod y fframwaith, fel y mae ar hyn o bryd, yn golygu bod potensial i weithredoedd Llywodraeth Cymru fynd ar goll mewn ymchwiliad ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan”.
“Mae hon yn bryder sydd gen i a fy nghydweithwyr yn y blaid ers tro a dyna’r rheswm pam ein bod ni’n dymuno cael ymchwiliad penodol i Gymru, fel y gwyddoch, rhywbeth y byddai’n well gennym ni ei weld yn dal i fod.
“Er nad oes gen i amheuaeth eich bod chi’n dymuno sicrhau bod datganoli’n cael ei ystyried yn yr ymchwil, mae’r ffaith mai dim ond un o’r tri modiwl sydd gan is-fodiwl yn ystyried Cymru’n benodol wedi codi’r ofnau yr oedden ni’n eu disgwyl wrth gael gwrandawiad ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan.
“Felly, byddwn yn dweud yn gryf bod angen i chi liniaru’r anesmwythdra hwn – byddai cael amlinelliad diwygiedig fel bod gan bob un o’r tri modiwl is-fodiwlau ar gyfer Cymru yn helpu gyda hynny.”
Meddai wedyn wrth wneud sylw ar y mater: “O ystyried y gwahanol agweddau gan y llywodraeth genedlaethol a’r llywodraethau datganoledig, mae hi’n hanfodol nad yw’r ymchwiliad yn gweld popeth o lygaid Lloegr.
“Dydy edrych ar Gymru yn achlysurol a chynnal ambell wrandawiad yma ddim yn ddigon i gwrdd ag anghenion pobol sydd eisiau gweld craffu iawn ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau.
“Wrth gwrs, ni ddylem ni fod wedi gorfod sgrifennu’r llythyr o gwbl oherwydd ni ddylai Mark Drakeford fod yn rhedeg oddi wrth y craffu drwy rwystro ymchwiliad penodol ar gyfer Cymru.”
‘Ystyriaeth ofalus’
Wrth ymateb i’w lythyr, dywedodd ysgrifennydd yr Ymchwiliad Covid ar ran y Farwnes Hallett: “Er nad yw Modiwl 1 a 3 yn dilyn yr un strwythur â Modiwl 2, byddan nhw’n cynnwys ymchwiliad i weithredoedd llywodraeth Cymru.
“Bydd yr Ymchwiliad yn troi at ymchwilio’r penderfyniadau gafodd eu gwneud yng Nghymru ac effaith y pandemig yng Nghymru eto drwy gydol eu gwaith yn y dyfodol.
“Dydy’r Cadeirydd heb gyhoeddi modiwlau’r dyfodol eto, ond fedra i eich sicrhau ein bod ni’n benderfynol o wneud yn siŵr bod gweithredoedd llywodraeth Cymru, ac eraill oedd ynghlwm â’r ymateb i’r pandemig yng Nghymru, yn cael ystyriaeth ofalus yn yr Ymchwiliad.”