Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n galw o’r newydd am ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru, ar ôl iddi ddod i’r amlwg mai un adran o dair yr ymchwiliad yn unig fydd yn rhoi sylw i’r sefyllfa yng Nghymru.
Mae’r Blaid yn cyhuddo Llafur o osgoi craffu ac o golli cyfle i sicrhau bod Cymru’n barod i wynebu unrhyw bandemig arall yn y dyfodol.
Bydd adran gynta’r ymchwiliad yn edrych ar wydnwch a pha mor barod oedd y Deyrnas Unedig ar gyfer y pandemig.
Bydd yr ail yn edrych ar lywodraethiant a phenderfyniadau’n ymwneud â’r pandemig gan y llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, tra bydd y drydedd adran yn ystyried effaith Covid-19 ac ymatebion y llywodraethau a’r gymdeithas ar systemau gofal iechyd, cleifion, ysbytai a staff gofal iechyd eraill.
Dim ond yr ail adran fydd yn rhoi sylw penodol i Gymru, ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol, y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru’n cefnogi ymchwiliad penodol i Gymru, gyda’r Alban yn cynnal eu hymchwiliad eu hunain.
‘Teuluoedd sy’n galaru’n haeddu ymchwiliad’
Yn ôl Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, mae’r teuluoedd sy’n galaru ar ôl colli anwyliaid yn ystod y pandemig yn haeddu “ymchwiliad sy’n talu sylw llawn i’r penderfyniadau a wnaed ym Mae Caerdydd”.
“Mae’r newyddion heddiw’n dangos bod ymchwiliad Covid ledled y Deyrnas Unedig mewn perygl o beidio â chael digon o sgôp i ystyried yn ddigon gofalus y penderfyniadau a wnaed yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru yn ystod Covid-19,” meddai.
“Roedd penderfyniadau yng Nghymru, gan ein Llywodraeth ddatganoledig, yn aml yn wahanol ac fe gawson nhw effaith, boed yn un negyddol neu bositif.
“Mae’r teuluoedd yng Nghymru sy’n galaru’n haeddu ymchwiliad sy’n talu sylw llawn i’r penderfyniadau hynny a wnaed ym Mae Caerdydd.
“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n credu’n gryf mewn datganoli, ond mae angen i Lafur Cymru ddeall bod mwy o graffu’n dod gyda mwy o bwerau.
“Ni ddylid ceisio osgoi hyn.
“Byddwn yn annog y Prif Weinidog a Llafur Cymru unwaith eto i ailystyried eu safbwynt.
“Nid rhoi’r bai yw ymchwiliad, ond yn hytrach dysgu gwersi hanfodol i sicrhau ein bod ni’n fwy parod ar gyfer y dyfodol.”