Bydd cynghorwyr yn lobïo Llywodraeth y Deyrnas Unedig tros gostau petrol a disel parhaus, ac yn gofyn am gael ymestyn y Cynllun Rhyddhad Treth Tanwydd Gwledig i Bowys.

Byddai hyn yn torri pum ceiniog oddi ar bris petrol wrth y pwmp.

Yng nghyfarfod Cyngor Powys ddydd Gwener (Gorffennaf 22), fe wnaeth Elwyn Vaughan, arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar y Cyngor, noddi cynnig i gael cynnwys Cymru wledig yn y cynllun.

Fe ofynnodd i’r Cyngor “bwyso” ar Drysorlys Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddiweddaru’r cynllun, a bod aelodau seneddol Powys yn cydweithio ag eraill o rannau eraill o’r canolbarth fel rhan o gonsensws trawsbleidiol i wthio’r achos yn San Steffan.

Mae costau cynyddol tanwydd wedi taro pob rhan o’r wlad ond mewn ardaloedd gwledig megis Powys, does gan drigolion ddim dewis ond defnyddio cerbyd i deithio, ac maen nhw ymhlith y rhai sydd wedi’u taro galetaf yn eu pocedi.

‘Y genedl fwyaf dibynnol ar geir yn y Deyrnas Unedig’

“Cymru yw’r genedl fwyaf dibynnol ar geir yn y Deyrnas Unedig o ganlyniad i fuddsoddiad gwael mewn trafnidiaeth gyhoeddus,” meddai’r Cynghorydd Elwyn Vaughan.

“Rydym yn ymwybodol iawn o’r diffyg buddsoddiad yn ein rheilffyrdd er gwaetha’r buddsoddiad enfawr yn HS2 yn Lloegr, sy’n costio £5bn i Gymru.

“Mae’r Rhyddhad Treth Tanwydd Gwledig yn galluogi manwerthwyr i hawlio pum ceiniog y litr yn ôl mewn rhyddhad treth ar betrol di-blwm a disel, a throsglwyddo’r arbedion i gwsmeriaid mewn 17 ardal yn Lloegr a’r Alban.

“Mae hyn yn cynnwys rhannau o’r Ucheldiroedd, Argyll a Bute, Northumberland, Cumbria, Dyfnaint a Gogledd Swydd Efrog.

“Fodd bynnag, does yna’r un ardal o Gymru sy’n gymwys ar gyfer y cynllun ar hyn o bryd.”

Dywed fod sawl ardal yng Nghymru’n bodloni’r holl feini prawf.

Mae e hefyd wedi gofyn i’r Ceidwadwyr ar y Cyngor sôn am y mater wrth Rishi Sunak a Liz Truss, sy’n cystadlu i fod yn arweinydd nesa’r Blaid Geidwadol ac yn brif weinidog.

Y cynnig

Roedd y cynnig yn destun pleidlais ar unwaith, ac fe gafodd ei gymeradwyo gyda 55 o bleidleisiau o blaid, dwy yn erbyn ac un wedi’i hatal.

Mae’r cynllun yn weithredol mewn rhannau o’r Deyrnas Unedig lle mae prisiau wrth y pwmp petrol yn uwch o lawer yn hanesyddol na chyfartaledd y Deyrnas Unedig.

Mae hyn o ganlyniad i’r ffaith fod yr ardaloedd hyn yn anghysbell, sy’n arwain at gostau cludo uwch.

Roedd gwerthiant cymharol isel yn golygu nad oedd modd i orsafoedd petrol elwa ar brynu’n helaeth.