Mae Unbeb GMB wedi bod yn annog gweithwyr Amazon yn Abertawe i ddod am sgwrs gyda nhw ar y ffordd i’r gwaith heddiw (dydd Mercher, Awst 17).

Mae gweithwyr Amazon yn o broses o geisio sicrhau codiad cyflog o £2 yr awr i gyd-fynd yn well â gofynion eu swydd ac ymdopi â’r argyfwng costau byw.

Fodd bynnag, codiad cyflog o 35c yr awr sydd wedi cael ei gynnig gan Amazon.

Yn gynharach yn y mis, fe wnaeth gweithwyr Amazon gynnal protest yn sgil anghydfod ynglŷn â thâl, ac fe wnaeth cannoedd o weithwyr roi’r gorau i’r gwaith, yn ôl GMB.

“Amodau gwaith gwell a thâl teg”

“Mae Amazon yn un o’r cwmnïau mwyaf proffidiol ar y blaned,” meddai Steve Garelick, trefnydd rhanbarthol GMB.

“Gyda chostau cartref yn cynyddu’n sylweddol, y peth lleiaf y gallant ei wneud yw cynnig tâl teilwng i’w gweithwyr.

“Mae Amazon yn parhau i wrthod gweithio gydag undebau llafur i ddarparu amodau gwaith gwell a thâl teg.

“Ni allai’r ddelwedd y mae’r cwmni’n hoffi ei chynrychioli, a’r realiti i’w gweithwyr, fod yn fwy gwahanol.

“Mae angen iddyn nhw wella cyflogau ac amodau gwaith yn sylweddol.”

“Cyflog cystadleuol”

Dywedodd llefarydd ar ran Amazon: “Bydd cyflog cychwynnol i weithwyr Amazon yn cynyddu i isafswm o rhwng £10.50 a £11.45 yr awr, yn dibynnu ar leoliad.

“Mae hyn ar gyfer pob rôl lawn amser, rhan amser, tymhorol, a dros dro yn y Deyrnas Unedig.

“Yn ogystal â’r cyflog cystadleuol hwn, cynigir pecyn budd-daliadau cynhwysfawr i weithwyr sy’n cynnwys yswiriant meddygol preifat, sicrwydd bywyd, diogelu incwm, prydau bwyd sy’n derbyn cymhorthdal a gostyngiad i weithwyr, ymhlith pethau eraill, sydd gyda’i gilydd werth miloedd yn flynyddol, yn ogystal â chynllun pensiwn cwmni.”

“Ymgysylltu’n iawn â gweithwyr”

Wrth ymateb i’r sefyllfa, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Nid dyma sut y dylid gorfodi gweithwyr i drafod.

“Mae Undeb GMB yn gwbl gywir yn galw ar Amazon i ymgysylltu’n iawn â gweithwyr trwy eu hundebau llafur i drafod cyflogau ac amodau.”