Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i atal cynnydd arfaethedig ym mhrisiau teithiau trenau.

Daw hyn wrth i’r ffigwr chwyddiant sy’n cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i benderfynu ar gynnydd blynyddol rhai prisiau teithiau trenau godi i’w bwynt uchaf ers bron i 40 mlynedd.

Dangosa data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol fod chwyddiant Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) mis Gorffennaf yn 12.3%, i fyny o 11.8% y mis blaenorol a’r uchaf ers Ionawr 1982.

Yn draddodiadol defnyddir ffigwr RPI gan Lywodraethau Cymru, yr Alban a’r Deyrnas Unedig i osod y cap ar y cynnydd mewn prisiau teithiau trenau’r flwyddyn ganlynol.

Mae’r rhain yn cynnwys y rhan fwyaf o docynnau tymor ar lwybrau cymudwyr.

Ddydd Llun (Awst 15) fe gyhoeddodd Adran Drafnidiaeth Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig y bydd prisiau yn Lloegr yn cynyddu yn 2023, er ar raddfa is na chwyddiant.

Yn y cyfamser, dyw Llywodraeth Yr Alban ddim wedi cyhoeddi ei chynllun ar gyfer 2023.

“Cymryd cyfrifoldeb”

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Drafnidiaeth, Natasha Asghar: “Wrth i deuluoedd ar draws Cymru orfod delio gyda’r cynnydd mewn costau byw, mae’n hanfodol bod Llafur yn dileu unrhyw gynnydd ym mhrisiau teithiau trenau eleni.

“Am rhy hir, mae camreoli Llafur o’r economi wedi gadael pobol yng Nghymru gyda’r cyflogau isaf ym Mhrydain felly fe fyddai gwrthod gwneud hynny yn anfaddeuol.

“Mae angen i weinidogion Llafur sefyll i fyny, cymryd cyfrifoldeb am eu methiannau a gwneud mwy i gefnogi teuluoedd ar draws Cymru.”

“Parhau i drafod”

Wrth ymateb, dywedodd Llefarydd dros Llywodraeth Cymru: “Rydym yn gwbl ymwybodol bod yr hinsawdd economaidd a chostau byw cynyddol yn cael effaith enfawr ar ein teithwyr ac rydym yn parhau i drafod yr adolygiad nesaf o docynnau trên gyda Trafnidiaeth Cymru.”