Mae newyddiadurwr ac awdur wedi cyhoeddi ei ail lyfr sy’n edrych ar y ddadl dros annibyniaeth i Gymru mewn ffordd sy’n hygyrch i bobol.
Golygydd Materion Cymreig i WalesOnline ydy Will Hayward, sy’n wreiddiol o ganolbarth Lloegr ond wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ers 14 mlynedd ac sydd â sawl gwobr newyddiadurol dan ei felt.
Fe sgrifennodd y cyn-fyfyriwr Gwleidyddiaeth ei lyfr cyntaf yn ystod y cyfnod clo, sef Lockdown Wales: How Covid-19 Tested Wales.
Bydd ei lyfr diweddaraf, Independent Nation: Should Wales leave the UK?, yn cael ei gyhoeddi ddiwedd y mis.
Mae’n teimlo bod y llyfr yn gwneud y ddadl ynghylch annibyniaeth yn fwy hygyrch beth bynnag eich safiad ar y mater.
“Dydy’r llyfr ddim yn dweud wrth bobol ‘dyma beth ddylech chi feddwl’. Pecyn cymorth ydy’r llyfr yn y bôn i bobol ffurfio barn eu hunain,” meddai Will Hayward.
Dau berson yn dod i gasgliad gwahanol
Yr un peth sy’n cael ei sefydlu ar ddechrau’r llyfr yw’r ffaith nad yw’r sefyllfa bresennol yn gweithio i Gymru, nag i Loegr, Yr Alban na Gogledd Iwerddon chwaith.
Y syniad yw y gall dau berson ddarllen y llyfr a dod i gasgliadau gwahanol, meddai Will Hayward.
“Mae’n dibynnu ar eich hunaniaeth, eich incwm, eich agwedd tuag at risg, eich oedran, o le rydych chi’n dod a lle yng Nghymru rydych chi’n byw,” meddai Will Hayward wrth golwg360.
“Y syniad ydy ei fod o’n cyflwyno gwybodaeth gytbwys ac mae’n golygu bod pobol, o leiaf, yn gwneud penderfyniad efo’r wybodaeth sydd wedi ei gyflwyno iddyn nhw.”
Mae’r awdur yn teimlo’n gryf dros sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch i bobol, a dyna un o’r rhesymau dros gyhoeddi’r llyfr.
“Mae’n rili pwysig ein bod ni’n cymryd rheolaeth o’r math o ddyfodol rydyn ni eisiau.
“Mae o mor bwysig bod y trafodaethau yma’n digwydd a bod y wybodaeth yma ar gael iddyn nhw oherwydd mae hynny’n ffordd llawer mwy aeddfed [o wneud penderfyniadau].
“Ond dw i’n gobeithio, mewn dwy flynedd, y bydd y llyfr yma wedi dyddio oherwydd bydd yn golygu bod y ddadl wedi symud ymlaen, a bod pobol wedi dechrau mynd i’r afael â’r mater mewn ffordd ystyrlon.”
Methu cymharu â’r Alban
Yn ôl Will Hayward, dydyn ni methu edrych ar wledydd fel yr Alban er mwyn ffurfio ein cynllun ni.
“Mae’n llai cymhleth i’r Alban fod yn annibynnol. Mae’r sefyllfa efo’r ffin yn hollol wahanol, mae materion yn ymwneud â thlodi yn hollol wahanol.
“Ond tydy hynny ddim yn golygu bod Cymru methu bod yn annibynnol.
“Tydy o ddim yn golygu bod o’n rhywbeth na ddylem ei ystyried.
“Ond mae o’n broblem wahanol felly dydych chi methu edrych arno fo yn yr un ffordd.
“Yn yr Alban, mae yna ochr undebwyr sydd wedi’i ddatblygu a’i drefnu’n dda iawn, tra yng Nghymru mae o jest yn ‘bawb arall’.
“Yng Nghymru, mae ffocws cenedlaetholdeb bob amser ar adeiladu’r genedl; diogelu’r iaith, adeiladu’r syniad hwn o Gymreictod.
“Tra yn yr Alban, yn amlwg doedd ganddyn nhw ddim cweit yr un sefyllfa o ran iaith, ond doedd byth y syniad o fod angen gwarchod Albaniaeth, oherwydd doedd hynny ddim yno.
“Felly maen nhw’n ddadleuon gwahanol.”
- Bydd Independent Nation: Should Wales Leave the UK yn cael ei gyhoeddi ar Awst 30, ac mae’n bosib rhag-archebu copi yma neu bydd ar werth yn eich siop lyfrau leol.