Mae un o sêr Hollywood wedi cefnogi ymgyrch pentref ger Machynlleth i brynu tafarn hanesyddol.

Mae gan Matthew Rhys gysylltiadau teuluol cryf ag ardal Pennal, ac mae’n awyddus i sicrhau bod tafarn a bwyty Glan yr Afon yn y pentref yn dod dan berchnogaeth gymunedol.

Yn ôl yr amcangyfrifon, tua £450,000 fydd y gost o brynu’r adeilad, ac mae’r gymuned yn awyddus i ddiogelu’r adeilad.

Mae enw pentref Pennal yn amlwg iawn yn hanes Cymru wedi i Owain Glyndŵr yrru llythyr yn gofyn am gymorth milwrol gan Frenin Ffrainc, Siarl VI, er mwyn achub ei Gymru, ei hiaith a’i diwylliant rhag gormes.

Adnabyddir y llythyr, a gafodd ei anfon yn y 15fed ganrif, fel Llythyr Pennal, ac mae’r copi gwreiddiol yn cael ei gadw yn yr Archives Nationales ym Mharis.

‘Diwallu anghenion lleol’

Mae trigolion Pennal yn galw am gymorth unwaith eto, ac meddai Meirion Roberts, cadeirydd y grŵp rheoli: “Rydym yn rhan o gymuned fechan ond fywiog yma ym Mhennal ac er mwyn sicrhau dyfodol y gymuned honno rydym wedi lansio ymgyrch i ddiogelu adeilad Glan yr Afon.

“Mae’r dafarn restredig Gradd II hanesyddol yn dafarn a bwyty adnabyddus ar hyn o bryd, ond mae’r perchnogion presennol yn awyddus i werthu, a’n nod ni yw dod â’r adeilad i berchnogaeth y gymuned leol a’i ailddatblygu fel ei fod yn diwallu ein hanghenion nawr ac yn y dyfodol.

“Yn ogystal â pharhau â’r busnes fel man lletygarwch rydym hefyd am ei ddatblygu ymhellach i gynnig cyfleusterau cymunedol fel mannau cyfarfod a siop.

“Mewn ardal wledig fel hon a chyda chostau tanwydd yn cynyddu, bydd cynnig y mathau hyn o wasanaethau i bobol ar drothwy eu drws o bosib yn lleddfu rhai o’r pryderon hynny yn ogystal â helpu gyda’r argyfwng newid hinsawdd.”

Yn ôl yr amcangyfrifon, tua £450,000 fydd y gost o brynu’r adeilad, a’r gobaith yw y bydd peth o’r arian yn cael ei sicrhau drwy grantiau.

Bydd cynllun cyfranddaliadau cymunedol, sydd wedi cael ei lansio yn yr ardal yn ddiweddar, yn cynnig cyfle i bobol brynu cyfran o’r fenter ac elwa o ddifidendau blynyddol yn y blynyddoedd i ddod.

‘Ysbryd Owain Glyndŵr’

Meddai Matthew Rhys: “Mae gen i gysylltiadau personol cryf ag ardal Pennal a chredaf fod y fenter hon yn hynod bwysig i helpu i ddiogelu dyfodol y gymuned.

“Mae’n wych gweld pobol yn cymryd cyfrifoldeb a pherchnogaeth dros eu cymunedau yn y cyfnod heriol hwn a dymunaf yn dda iddynt yn eu hymdrechion.

“Os allwch chi gefnogi gwnewch hynny, a bydd ysbryd Owain Glyndŵr yn parhau i ofalu am yr ardal.”

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y cynnig cronfa cyfranddaliadau cymunedol drwy ymweld â www.menteryglan.org