LLYTHYR AGORED AT Y CYNGHORYDD HUW THOMAS, ARWEINYDD CYNGOR CAERDYDD

Maddeuwch i mi am gysylltu â chi fel hyn, ond fe ymddengys fod y Post Brenhinol wedi rhoi’r gorau i ddosbarthu llythyron i Gyngor Caerdydd.

Yn fuan ar ôl yr etholiad lleol diwethaf [ym mis Mai], cefais lythyr gan swyddog etholiadol yn dweud fod fy mhleidlais heb gael ei chyfrif oherwydd ryw fanylion anghywir ar fy ffurflen bleidleisio drwy’r post. Gyrrais lythyr yn syth bin gan ofyn am esboniad. Wrth i’r wythnosau o aros am ateb ddechrau troi’n fisoedd, gyrrais lythyr at y Prif Weithredwr gan ofyn iddo brocio cof y swyddog etholiadol. Cyn hir byddaf yn dechrau cyfri’r misoedd o aros cyn i hwnnw ateb.

Tybed, tybed, a fyddai modd i chi ddatgan felly beth oedd y broblem gyda fy ffurflen bleidleisio – cyn i’r nwyddau Nadoligaidd ddechrau cyrraedd y siopau, gobeithio!

Tim Saunders

Caerdydd