Wrth i ddisgyblion dderbyn canlyniadau Lefel A heddiw (dydd Iau, Awst 18), rhaid cofio y bydd rhai unigolion ac ysgolion wedi gweld mwy o darfu nag eraill, yn ôl un undeb.
I nifer o’r disgyblion sy’n derbyn eu canlyniadau, dyma’r arholiadau ffurfiol cyntaf iddyn nhw eu sefyll yn sgil y pandemig.
“Llongyfarchiadau i’r holl ddisgyblion sy’n derbyn eu canlyniadau heddiw,” meddai Laura Doel, cyfarwyddwr undeb arweinwyr ysgolion NAHT Cymru.
“Maen nhw wedi gweld amharu mawr drwy gydol eu cyrsiau yn sgil Covid ac wedi gweithio’n galed gyda chefnogaeth eu hysgolion i gael eu canlyniadau heddiw.
“Rydyn ni wedi cael gwybod gan ein haelodau pa mor wydn a thaer y mae disgyblion wedi bod wrth wynebu’r heriau.
“Mae’n bwysig bod pawb yn cofio bod rhai disgyblion a rhai ysgolion wedi dioddef mwy o amharu yn sgil y pandemig nag eraill, felly dylid ystyried y canlyniad o fewn cyd-destun personol.
“Wedi dweud hynny, dylai disgyblion deimlo’n hyderus eleni bod y canlyniadau hynny sy’n ddibynnol ar eu perfformiad mewn arholiad wedi cael eu marcio a’u safoni yn gyson dros bob canolfan.
“Dylai prifysgolion a phob llwybr arall ar gyfer hyfforddiant, cyflogaeth ac addysg bellach ystyried profiadau disgyblion a gweithio efo nhw er mwyn eu rhoi nhw ar y cyrsiau a’r llwybrau iawn ar gyfer eu dyfodol.
“Er gwaethaf patrymau graddau cenedlaethol, yr hyn sy’n bwysig yw bod y canlyniadau heddiw’n gweithio fel pasbort i ddisgyblion fynd ymlaen i’r cam nesaf yn eu haddysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.”
‘Symud at asesu parhaus’
“Teg dweud bod pob dysgwr wedi wynebu pob math o heriau yn sgil Covid, ac wedi gwneud eu gorau o dan amgylchiadau anodd dros ben,” meddai Plaid Cymru wrth longyfarch disgyblion.
“Mae Plaid Cymru yn parhau i ofyn os taw sefyll arholiadau o’r fath yw’r mesur gorau o allu a chyrhaeddiad pobl ifanc.
“Credwn ei bod yn bryd edrych o ddifri ar roi mwy o bwyslais ar asesu parhaus yn hytrach nag arholiadau.”
‘Mwynhau normalrwydd’
“Hoffwn ddymuno pob lwc i bawb sy’n derbyn eu canlyniadau heddiw a llongyfarch myfyrwyr ar eu gwaith caled mewn amgylchiadau anodd, meddai Laura Anne Jones, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig.
“Hoffwn roi teyrnged i’r athrawon anhygoel a’r staff sydd wedi dysgu a mentora’r disgyblion, gan eu helpu i lwyddo.
“Gobeithio eich bod chi wedi llwyddo i gael popeth yr oeddech chi wedi’i ddymuno, ond hoffwn bwysleisio bod yna nifer o wahanol lwybrau posib a bod pobol sydd heb fynychu’r brifysgol wedi cyflawni pethau arbennig.
“Hon, diolch byth, fydd y flwyddyn olaf i Covid amharu ar astudiaethau disgyblion, a gobeithio bydd y criw nesaf yn gallu mwynhau normalrwydd ac yn cael y cyfle i gyrraedd eu llawn botensial.”