Mae galwadau i gynnal Diwrnod Cenedlaethol Elizabeth bob blwyddyn i gofio am Frenhines Lloegr wedi cael eu hwfftio, er bod dros 100,000 o bobol wedi llofnodi deiseb.

Bydd Diwrnod Gŵyl Banc ddydd Llun (Medi 19) ar gyfer yr angladd, ond does dim cynlluniau i’w droi’n ddiwrnod blynyddol, yn ôl Liz Truss, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig.

Roedd John Harris wedi sefydlu deiseb ar y wefan Change.org yn galw am ‘Ddiwrnod Cenedlaethol Elizabeth’, gan anelu am 25,000 o lofnodion, ond cafodd y targed ei gyrraedd a’i basio o fewn tridiau.

Dywedodd wrth sefydlu’r ddeiseb mae’r Frenhines Elizabeth II yw’r “brenin neu frenhines fwyaf poblogaidd erioed” a’i bod hi’n “ddynes ysbrydoledig”, gan gyfeirio at deyrngedau o bob cwr o’r byd iddi.

Mae’r ddeiseb hefyd yn nodi bod y Deyrnas Unedig yn cael llai o Wyliau Banc na gwledydd eraill yn Ewrop.

Ond wrth ymateb, mae llefarydd ar ran Downing Street yn dweud y bydd penderfyniad maes o law ar y ffordd orau o dalu teyrnged iddi mewn modd mwy parhaol, ac y byddan nhw’n gwneud hynny ar y cyd â’i theulu.