Dydy’r ffaith fod chwyddiant wedi gostwng 0.2% rhwng mis Gorffennaf ac Awst eleni “ddim yn arwyddocaol o gwbl”, yn ôl uwch ddarlithydd economeg ym Mhrifysgol Bangor.

Fore heddiw (dydd Mercher, Medi 14), cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod chwyddiant wedi gostwng i 9.9% yn y flwyddyn hyd at fis Awst, i lawr o 10.1% y mis blaenorol.

Roedd arbenigwyr wedi disgwyl na fyddai’r ffigwr wedi newid o’r naill fis i’r llall.

Dywed y Swyddfa Ystadegau Gwladol mai gostyngiad ym mhris tanwyddau modur oedd yn bennaf gyfrifol am y gostyngiad, er gwaetha’r ffaith fod prisiau bwyd, dillad ac ati’n parhau i gynyddu.

Fodd bynnag, mai Dr Rhys ap Gwilym o’r farn fod a wnelo’r gostyngiad fwy ag “amseriad pethau fwy na dim arall”.

“Y gwirionedd yw, dw i ddim yn meddwl fod y gostyngiad yn arwyddocaol iawn,” meddai wrth golwg360.

“Yr hyn maen nhw’n edrych arno yw’r gwahaniaeth yn y chwyddiant rhwng Awst 2021 ac Awst 2022.

“Ac felly’r rheswm y mae chwyddiant wedi gostwng rhywfaint yn Awst 2022 yw bod prisiau wedi cynyddu’n sylweddol yn Awst 2021.

“Yn y mis yna, roedd yna chwyddiant o 0.7%, sy’n sylweddol un mis.

“Roedd hynna oherwydd, os ydych chi’n mynd yn ôl i Awst 2020, roedd yna gynllun ‘Eat out to Help Out’.

“Felly oherwydd bod hwnna wedi cadw’r prisiau yn isel iawn yn Awst 2020, roedd o wedyn yn golygu bod chwyddiant yn uchel yn Awst 2021.

“Mae hwnna nawr wedi sythu allan wrth i’r ffigyrau diweddaraf am Awst 2022 ddod allan.

“Felly yn y bôn, dyw’r ffaith bod chwyddiant wedi gostwng 0.2% rhwng mis Gorffennaf ac Awst eleni ddim yn arwyddocaol o gwbl.

“Mae o’n ymwneud ag amseriad pethau fwy na dim.”

Rhagweld y bydd chwyddiant yn cynyddu drachefn

Mae Dr Rhys ap Gwilym yn rhagweld y bydd chwyddiant yn codi dros 10% eto fis nesaf, ac yn parhau i gynyddu am weddill y flwyddyn.

“Os ydyn ni’n edrych yn ôl, y mis oedd â’r chwyddiant uchaf dros y flwyddyn ddiwethaf oedd mis Ebrill,” meddai.

“Roedd hynny pryd wnaeth pris tanwydd tŷ, sef nwy a thrydan, gynyddu oherwydd fe aeth y cap i fyny.

“Mae’r cap yn mynd i fyny eto ddechrau mis Hydref felly ar yr adeg yna byddwn ni’n gweld pris trydan a nwy yn mynd i fyny yn sylweddol eto.

“Felly dw i’n disgwyl gweld chwyddiant yn cynyddu’n sylweddol dros y misoedd nesaf.

“Mae Banc Lloegr yn meddwl bod chwyddiant yn mynd i gynyddu hyd at 13% cyn diwedd y flwyddyn.

“Mae Resolution Foundation yn meddwl ei fod o’n mynd i fynd fyny i 15%, tra bod yr Intercity Bank yn credu y gallai fynd mor bell â 18% yn gynnar yn y flwyddyn nesaf.

“Felly dw i’n credu bod yr hyn rydan ni’n ei weld y mis yma jyst yn blip bach, a’r peth mwyaf tebygol yw y bydd chwyddiant yn ôl dros 10% eto am weddill y flwyddyn.”

Beirniadu polisi prisiau ynni Liz Truss

Dyw Dr Rhys ap Gwilym ddim yn credu bod cynllun Liz Truss i fynd i’r afael â phrisiau ynni yn “bolisi call iawn”.

Fe fydd biliau ynni cyfartalog cartref yn £2,500 y flwyddyn o fis Hydref o ganlyniad i gynllun ‘Gwarant Pris Ynni’ Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Bydd yn weithredol am ddwy flynedd, gan ddechrau ar Hydref 1.

Roedd disgwyl i filiau ynni domestig gynyddu ar gyfartaledd i £3,549.

Fodd bynnag, mae disgwyl i gost pecyn cymorth y Llywodraeth ddod i gyfanswm o ryw £100bn – arian maen nhw’n bwriadu ei fenthyg.

Fydd dim disgwyl i gwsmeriaid ad-dalu’r gefnogaeth, sy’n golygu mai trethdalwyr fydd yn talu’r benthyciad yn ôl.

Awgryma ffigyrau Llywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd aelwyd gyffredin yn arbed £1,000 ar eu biliau ynni o ganlyniad i’r polisi.

Fodd bynnag, mae Dr Rhys ap Gwilym o’r farn mai’r bobol gyfoethocaf yn y gymdeithas fydd yn elwa fwyaf o’r polisi, yn hytrach na’r rhai “sydd wir ei angen”.

“Mae o’n  sicr yn mynd i helpu rhai pobol,” meddai.

“Ond ydi o’n mynd i helpu’r bobol gywir? Dw i ddim yn credu ei fod o.

“Mae pobol wedi bod yn gwneud gwaith dros yr wythnosau diwethaf, wedi dangos fod o’n mynd i fanteisio pobol sy’n defnyddio mwy o ynni na’r rhai sy’n defnyddio llai.

“Mae pobol fwy cyfoethog yn mynd i elwa mwy o’r polisi yma na phobol dlotach, ac i fi dydy hynny ddim yn beth call.

“Ar ben hynny, dw i’n credu bod y polisi yn mynd yn erbyn y fath o athroniaeth economegol mae Liz Truss yn honni y mae hi’n credu ynddo.

“Mae hi’n sôn am gael marchnadoedd rhydd, felly pam yn y byd y mae hi’n capio prisiau ynni?

“Mae hynny yn anfon y neges bod nwy a thrydan yn brin ar hyn o bryd a’n profi y dylen ni fod yn torri’n ôl ar eu defnydd.

“Felly mae capio yn rhedeg yn erbyn popeth y mae hi’n dweud y mae hi’n sefyll drosto am farchnadoedd rhydd ac ar ben hynny, dydy o ddim yn gwarchod y bobol fwyaf bregus.

“Felly yn y bôn, dw i ddim yn meddwl ei fod o’n bolisi call iawn.

“Mae yna lawer o ffyrdd mwy effeithiol o helpu’r bobol fwyaf bregus, tra’n sicrhau bod yr economi yn gyffredinol yn torri’n ôl ar ddefnydd o nwy a thrydan.

“Dw i’n credu y byddai wedi bod yn well targedu’r cymorth i’r bobol fwyaf bregus trwy fudd-daliadau a gadael iddyn nhw benderfynu lle maen nhw’n gwario’r arian yna.

“Fe allen nhw wario’r pres yna ar fwyd er enghraifft, rydan ni’n gweld bod prisiau bwyd yn mynd i fyny ar hyn o bryd.

“Ond yn hytrach, maen nhw’n sybsideiddio’r cwmnïau ynni.

“Fe fyddai’n gwneud lot mwy o synnwyr targedu cymorth i’r bobol sydd wir ei angen.”