Mae hi’n “siomedig iawn” fod cerrig beddi mewn hen fynwent yng Nghaernarfon wedi cael eu difrodi, yn ôl y cynghorydd lleol.
Er bod Dewi Wyn Jones yn ffyddiog mai criw bychan sydd wedi gwneud y difrod i’r cerrig ym mynwent Llanbeblig, mae’n siom iddo.
Mae criw o wirfoddolwyr wedi bod yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar yr hen fynwent, sy’n cynnwys dros 2,500 o feddi, ers ychydig o flynyddoedd, a nhw ddaeth ar draws y cerrig beddi oedd wedi cael eu torri.
Mewn neges ar Facebook, mae’r gwirfoddolwyr yn pledio i’r rhai sy’n mynd i’r fynwent gyda’r nos i barchu’r cerrig beddi a’r gwaith maen nhw wedi bod yn ei wneud i wella’r ardal.
‘Criw bychan’
Lleiafrif yn y dref sy’n ymddwyn fel hyn, yn ôl Dewi Wyn Jones.
“Roeddwn i’n siomedig iawn â dweud y gwir, mae yna nifer o wirfoddolwyr wedi bod wrthi’n clirio’r fynwent ers dipyn rŵan – yn trio gwneud ychydig o waith cynnal a chadw a chadw’r lle’n edrych yn barchus ac yn daclus,” meddai cynghorydd sir Plaid Cymru dros ward Peblig yn y dref, wrth golwg360.
“Mae’n biti fod pethau fel hyn yn digwydd, ond dw i reit ffyddiog mai criw bychan ydyn nhw.
“Gobeithio bod hyn ddim yn adlewyrchu pa fath o gymuned ydy Caernarfon.
“Mae Caernarfon yn gymuned sy’n gofalu am bethau fel hyn, ac mae’r ffaith bod gwirfoddolwyr yn trin y fynwent yn dangos hynny.
“Ond mae o’n siomedig bod yna griw bychan yn gwneud rhywbeth fel hyn.
“Rydyn ni’n lwcus bod gennym ni bobol yn cymryd diddordeb ac yn gwarchod y fynwent.
“Os oes yna rywun yn gwybod pwy ydyn nhw, rydyn ni’n annog nhw i’w riportio nhw i’r heddlu ac [yn annog] pobol i gadw llygad ac os ydyn nhw’n gweld unrhyw beth amheus [i ddweud wrth yr heddlu], a gobeithio fedran ni atal y bobol hyn rhag gwneud y math yma o beth yn y dyfodol.”