Mae nifer o gymdeithasau trefnwyr angladdau wedi wfftio’r adroddiadau ar y we fod pob angladd wedi’i ganslo yn y Deyrnas Unedig ddydd Llun (Medi 19) o ganlyniad i angladd Elizabeth II, Brenhines Lloegr.

Does dim rhaid i fusnesau gau ar y diwrnod dan sylw gan nad yw’r Ŵyl Banc yn un statudol, ond bydd rhai busnesau’n dewis cau er mwyn dangos parch ac i alluogi eu staff i wylio’r angladd brenhinol, gyda threfnwyr angladdau a staff cysylltiedig yn eu plith.

Felly, beth am deuluoedd sy’n galaru ac yn disgwyl mynd i angladdau eu hanwyliaid eu hunain ddydd Llun?

Er bod rhai busnesau sy’n cynnig angladdau a gwasanaethau claddu neu amlosgi’n dewis symud angladdau i ddyddiad arall, mae disgwyl i angladdau eraill gael eu cynnal, yn ôl Associated Press, sydd wedi cael ymateb gan dair cymdeithas.

Yn ôl Ffederasiwn Awdurdodau Claddu ac Amlosgi y Deyrnas Unedig, y cyngor sy’n cael ei roi yw y dylid parhau â phob angladd, ac mae hynny wedi’i ategu gan Gymdeithas Genedlaethol y Trefnwyr Angladdau a Chymdeithas Genedlaethol Trefnwyr Angladdau Cynghreiriol ac Annibynnol.

Ond mae’r darlun yn wahanol iawn o un awdurdod lleol i’r llall, wrth i’r cymdeithasau gynghori y dylai unrhyw benderfyniadau gael eu gwneud ar sail dymuniadau’r teuluoedd ac wrth ymgynghori’n llawn â nhw.

Does dim rhaid i gyflogwyr gynnig diwrnod o wyliau ar gyfer yr Ŵyl Banc, ac mae hynny’n debygol o gael effaith ar alarwyr sydd eisiau mynd i angladdau sy’n cael eu cynnal, gyda gwasanaethau cyhoeddus drwyddi draw, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus ac ysgolion, yn cau am y diwrnod.

Yn ôl Cymdeithas Genedlaethol y Trefnwyr Angladdau, mae trefnwyr angladdau’n ceisio cydbwyso dymuniadau’r teuluoedd gyda dymuniadau eu staff eu hunain, ond maen nhw’n pwysleisio na fydd drws yr un trefnydd angladdau ynghau i deuluoedd sy’n galaru os oes angen cefnogaeth arnyn nhw ar y diwrnod.

Cymru

Yn ôl adroddiadau, bydd trefnwyr angladdau ledled Cymru yn aros ar agor ar gyfer angladdau sydd eisoes wedi’u trefnu, ond mae teuluoedd wedi cael cynnig symud angladdau oedd i fod i gael eu cynnal ddydd Llun.

Dim ond pe bai teuluoedd yn gwneud cais y byddai trefnwyr yn aildrefnu angladdau.

Mae disgwyl i amlosgfeydd a mynwentydd aros ar agor, tra bydd eglwysi unigol yn trafod yn unigol â theuluoedd pe bai angen newid eu trefniadau.

Er y gallai rhai trefnwyr angladdau gau, byddan nhw’n parhau ag angladdau sydd eisoes wedi’u trefnu ac er na fydd rhai angladdau’n cael eu cynnal pe bai teuluoedd yn dymuno’u gohirio, byddan nhw’n dal i gynnig cefnogaeth i deuluoedd sy’n galaru ac maen nhw’n pwysleisio na fydd eu drysau ynghau yn llwyr.

“Mae canllawiau’r Llywodraeth yn dweud, lle bo’n bosib, y dylai swyddfeydd cofrestru lleol aros ar agor i’r cyhoedd, ac y dylid cyfyngu ar yr anghyfleustra i wasanaethau megis priodasau ac angladdau,” meddai’r Gymdeithas Llywodraeth Leol.

“Mae’n rhaid i gynghorau ystyried nifer o ffactorau cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ynghylch pa wasanaethau a digwyddiadau sy’n mynd rhagddynt ar Ŵyl y Banc.”