Bydd gorsaf radio gymunedol, sinema gymunedol a sioe ffasiwn gynaliadwy yn cael eu sefydlu ym Machynlleth dros yr hydref.

Mae Stiwdio Dyfi CIC wedi derbyn grant gan Gronfa Adnewyddu Gymunedol Llywodraeth y Deyrnas Unedig i greu nifer o brosiectau cymunedol yn yr ardal.

Ynghyd â sefydlu gorsaf radio gymunedol, bydd sinema gymunedol yn cael ei threialu, sef Sinema Sôs Coch.

Yn ôl Will Tremlett o Stiwdio Dyfi, y gobaith yw y bydd digon o ddiddordeb fel bod modd parhau â’r sinema ar ôl mis Hydref.

Bydd cyfres o weithdai yn cael eu cynnal hefyd, fydd yn arwain at sioe ffasiwn gynaliadwy fis nesaf.

“Sut mae gorsaf ddarlledu gymunedol yn edrych? Wel, ym Miosffer Dyfi mae hi’n edrych fel dx3.cymru. Mae Digidol Dyfi Digital, neu DX3, yn orsaf radio a theledu sydd wedi ei lleoli ym Miosffer Dyfi,” meddai Will Tremlett.

Mae Stiwdio Dyfi’n gwmni sy’n cael ei redeg gan bobol leol er budd pobol leol.

“Mae sawl unigolyn wedi dod ynghyd dan faner DX3 i greu gorsaf ar gyfer artistiaid clywedol ardal Dyfi,” meddai wedyn.

“Er mwyn hwyluso’r prosiect, mae DX3 yn cynnal cyfres o weithdai sgiliau digidol am ddim ac mae gennym ni gamera, ac offer sain a chyfrifiadurol, all unrhyw un ei ddefnyddio, unwaith maen nhw wedi cael cyfarwyddiadau gan arbenigwyr yn ein gweithdai.”

Sinema gymunedol

Y Tabernacl ym Machynlleth fydd cartrefi Sinema Sôs Coch.

Byddan nhw’n dangos ffilmiau bob dydd Iau a dydd Sadwrn tan ddiwedd Hydref.

“Y gobaith yw y bydd digon o ddiddordeb mewn cael sinema gymunedol ym Machynlleth fel ei fod yn medru parhau,” meddai Will Tremlett.

“Y gymuned sy’n bwysig i sinemâu lleol, lle i gyfarfod, gwylio ffilm gyda’n gilydd, aros am bryd o fwyd neu allu cerdded adre.”

Ffasiwn gynaliadwy

Rhan olaf y prosiect fydd cynnal gweithdai yn Hwb Ffasiwn Da, sy’n gydweithrediad dan ofal Jay Tremlett, brawd Will, ac sy’n canolbwyntio ar “wnïo, ffasiwn ac uwch-gylchu”.

“Mae’r diwydiant ffasiwn ymysg y gweithgynhyrchwyr sy’n achosi’r mwyaf o lygredd yn y byd,” meddai Jay Tremlett.

“Mae angen 2,700 litr o ddŵr i greu un crys-t cotwm ac mae cemegau o ffatrïoedd yn cael effaith ddinistriol ar fywydau dynol a bywyd fel arall.

“Yr hyn sy’n gwneud pethau’n waeth yw bod hyn yn digwydd yn rhai o rannau tlotaf y byd, ardaloedd sy’n debyg nesaf peth i ddim cefnogaeth ar gyfer y rhai sy’n cael eu heffeithio gan lygredd.

“Mae’r broblem yn un rhy fawr i unrhyw unigolyn drio’i datrys, mae’n rhaid i’r datrysiad fod yn un ar y cyd.”

Mae Hwb Ffasiwn Da yn datblygu’r diwydiant tecstilau lleol yn ardal Machynlleth, a byddan nhw’n cynnal eu sioe ffasiwn gyntaf noson Calan Gaeaf.