“Dinistr sydd y tu hwnt i ddychymyg” oedd disgrifiad Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig António Guterres o’r distryw ar lawr gwlad ym Mhacistan yn sgil y llifogydd hanesyddol sydd wedi gadael miliynau mewn angen cymorth dyngarol brys.

Yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst, syrthiodd lefelau glaw oedd bron deirgwaith cyfartaledd y 30 mlynedd diwethaf dros ardal helaeth o’r wlad. Defnyddiodd Mr Guterres hefyd y geiriau “trychineb hinsawdd” i’w ddisgrifio; un sydd wedi effeithio 33m o bobl, gan gynnwys 16m o blant.

Anodd ydy amgyffred graddfa’r dinistr ym Mhacistan. Cafodd cymunedau cyfan eu hysgubo i ffwrdd, lladdwyd o leiaf 1,400 o bobol ac anafwyd dros 12,700. Mae mwy na 1.7m o dai wedi cael eu difrodi neu eu dinistrio, mwy na chyfanswm nifer y tai sydd yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae mwy na 637,000 o bobol, dwywaith poblogaeth Caerdydd, wedi eu dadleoli ac mewn gwersylloedd dros dro.

Ar lefel ariannol, amcangyfrifir fod gwerth USD $30bn o ddifrod wedi ei achosi. Ac wrth gwrs, does dim pris ar y trawma a’r golled bersonol.

Gyda mwy o law ar y gorwel, mae pryder fod y gwaethaf eto i ddod, gyda bygythiad tirlithradau ac afiechydon yn pentyrru gofidion ar bobol sydd eisoes wedi colli eu cartrefi, eu cymunedau a’u bywoliaethau. O fewn ychydig ddyddiau, cafwyd yr adroddiadau cyntaf o golera’n ymledu ac er yn ddigon syml i’w drin, heb ofal meddygol gall fod yn angeuol. Yn ôl y WHO (Sefydliad Iechyd y Byd), cafodd dros 900 o ganolfannau iechyd eu dinistrio neu eu difrodi’n ddifrifol gan y llifogydd. Gyda chymaint o ddŵr llonydd ac aflan ar lawr gwlad, gwelwyd cynnydd sylweddol mewn achosion o ddolur rhydd, twymyn dengue, a malaria yn ogystal.

Fel gwlad â dibyniaeth drom ar gynnyrch amaethyddol domestig, pryder mawr arall ydy’r faith fod ardaloedd enfawr o dir amaethyddol wedi cael eu heffeithio. Dinistriwyd stociau bwyd ac amcangyfrifir fod 3.6m o erwau o gnydau a pherllannau wedi cael eu difrodi a thros 900,000 o dda byw wedi eu boddi. Yn nhaleithiau Sindh a Balochistan, nid yn unig y mae ffermwyr wedi colli eu cartrefi, eu cnydau a’u da byw ond byddant yn colli’r cnwd nesaf am na fydd y dŵr wedi cilio mewn amser i’r cyfnod hau ar gyfer y tymor nesa’. Bydd gan hyn oblygiadau ar gyfer diogelwch bwyd poblogaeth gyfan y wlad.

Ailgodi

Does dim dwywaith na fyddai’r un wlad wedi gallu ymdopi a’r glaw a gwympodd ar Bacistan dros y misoedd diwethaf ac y bydd cymorth allanol yn anghenraid hollol os ydy’r wlad i ailgodi ar ei thraed.

Dyna pam y gwnaeth y Pwyllgor Argyfyngau Brys (DEC) lansio Apêl Llifogydd Pacistan. Rôl yr elusen yw dod a phrif elusennau dyngarol y Deyrnas Unedig ynghyd ar adegau o argyfwng dramor, i gydweithio a chodi arian ar y cyd; a hynny er mwyn yw achub, diogeli ac ailadeiladu bywydau trwy ymateb dyngarol effeithiol.

Eisoes mae’r apêl wedi llwyddo i godi £600,000 yng Nghymru a £25m ar lefel y Deyrnas Unedig, gan gynnwys £5m o arian cyfatebol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, cymorth y mae angen dirfawr amdano.

Mae 11 o elusennau sy’n aelodau o’r DEC yn ymateb i’r argyfwng, unai yn uniongyrchol neu drwy bartneriaid lleol. Ymhlith yr elusennau yma mae’r Groes Goch Brydeinig, Tearfund, Oxfam Cymru, CAFOD ac Achub y Plant. Y blaenoriaethau mawr ar hyn o bryd wrth gwrs ydy achub bywydau a hynny drwy ddarparu lloches dros dro, cymorth meddygol, bwyd a dŵr glân ac offer glanweithdra i atal lledaeniad pellach afiechydon.

Dros bythefnos hanesyddol yn hanes y Deyrnas Unedig, efallai nad yw trallod pobol Pacistan wedi derbyn y sylw y byddai wedi’i dderbyn dan amgylchiadau arferol. Ond y gwir yw fod teuluoedd yno’n wynebu brwydr enbyd i oroesi, allan yn yr awyr agored ac mewn amodau amhosibl. Gellid ond teimlo i’r byw sefyllfa teuluoedd sydd wedi canfod eu hunain yn wynebu grym trychineb hinsawdd fel hon, a hwythau fel gwlad sydd wedi cyfrannu cyn lleied i’r argyfwng honno.

• Gallai £10 ddarparu cyflenwadau hylendid hanfodol i ddau berson

• Gallai £50 ddarparu lloches brys i ddau deulu

• Gallai £100 ddarparu bwyd brys i ddau deulu am fis

Gellir cyfrannu drwy www.dec.org.uk neu drwy ffonio 0330 678 1000