Mae ymwelwyr wedi’u siomi ar ôl ymweld â Sycharth, sef prif gartref Owain Glyndŵr.
Buodd criw sy’n gweithio ar gynhyrchiad newydd o’r Mab Darogan gyda Chwmni Theatr Maldwyn yn ymweld â Sycharth ddiwedd mis Gorffennaf eleni er mwyn i aelodau’r cwmni ddod yn gyfarwydd â hanes Owain Glyndŵr.
Ond cawson nhw eu siomi wrth weld cyflwr y safle.
‘Pa genedl arall fyddai’n gadael safle yn y fath gyflwr?’
Y broblem gyntaf y daethon nhw ar ei thraws oedd y gamfa sy’n arwain o’r maes parcio i’r safle.
“Gwelsom fod cyflwr y gamfa sy’n arwain o’r maes parcio i’r safle mewn cyflwr peryglus, gan fod un rhan o’r gamfa ar goll ac felly’n ei gwneud hi’n anodd i gael mynediad diogel i’r safle,” meddai Penri Roberts, un o ysgrifenwyr y sioe ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol ym Machynlleth yn 1981, mewn llythyr sydd wedi ei gyhoeddi yng ngylchgrawn Golwg heddiw (15 Medi)
Ar ben hynny, roedden nhw’n teimlo ar eu hymweliad fod ymdeimlad nad oedd y safle yn bwysig o ran hanes y Cymry.
“Mae’r safle dan ofal Cadw, ond ychydig o arwyddion sydd yno o unrhyw “gadw” na gofal,” meddai wedyn.
“Mae’r domen ei hun, lle y bu neuaddau Glyndŵr, a ddisgrifir mor wych gan gywydd Iolo Goch, yn llawn dalen poethion a thyfiant gwahanol.
“Pa genedl arall fyddai’n gadael safle sydd o bwys cenedlaethol yn y fath gyflwr?
“Mae yna ddau hysbysfwrdd sy’n nodi ychydig o hanes gwrthryfel Owain yma, ond mewn difri, dychmygwch beth a allai gwariant teilwng ar y safle greu o ran addysg a thwristiaeth, petai ganolfan urddasol yn cael ei sefydlu yma.
“Cymharwch yr arian sy’n cael ei wario ar y Cestyll Normanaidd yng Nghymru, gyda’r gwariant ar henebion gwir Gymreig.
“Ie, Cestyll Normanaidd – sy’n ein hatgoffa’n feunyddiol o’n darostyngiad fel cenedl.”
Diffyg arwyddion
Problem arall y daethon nhw ar ei thraws, meddai Penri Roberts, oedd diffyg arwyddion i’ch cyfeirio tuag at Sycharth.
“Wrth deithio ar y ffordd o Lanrhaeadr ym Mochnant tuag at Groesoswallt, bydd gofyn am Llansilin ger tafarn y Green Inn – does yna ddim arwydd yno i’ch cyfeirio i Sycharth,” meddai wedyn.
“Yna ar ôl rhyw ddwy filltir, rhaid troi i’r dde a dilyn ffordd fach gul at faes parcio Sycharth.
“Unwaith eto, does yna ddim arwydd o unrhyw fath.
“Pam? Ydy Cadw, neu bwy bynnag sy’n gyfrifol, eisiau cadw’r safle’n gyfrinach?”
‘Gwaith ar fin digwydd’
“Er bod Sycharth yn heneb gofrestredig, mae’n eiddo preifat i Ystad Llangedwyn,” meddai llefarydd ar ran Cadw wrth golwg360.
“Oherwydd hynny, y perchnogion sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r safle.
“I gydnabod arwyddocâd Sycharth, yn 2010–11 buddsoddodd Cadw’n helaeth yn yr heneb, ynghyd â safle mwnt a ffos Owain Glyndŵr yng Nglyndyfrdwy.
“Roedd hyn yn cynnwys ffurfioli’r mynediad cyhoeddus presennol i’r safle gydag Ystad Llangedwyn, creu’r maes parcio, gosod cyfieithiad a gwarchod y gwrthgloddiau, a oedd wedi’u draenio’n wael ac a oedd wedi’u herydu’n wael gan wartheg.
“Er bod yr heneb ei hun yn parhau i fod mewn cyflwr da, rydym yn cydnabod bod angen gwella’r maes parcio a’r llwybrau mynediad erbyn hyn.
“Rydym yn gweithio gydag Ystad Llangedwyn i gyflawni hyn.
”Bydd Cadw’n ariannu camfa newydd well, ac adnewyddu’r maes parcio ag arwyneb mwy gwydn.
“Mae’r gwaith hwn ar fin digwydd.”