Mae gwleidydd yng Nghatalwnia sydd wedi bod gerbron Goruchaf Lys Sbaen yn sgil ei rhan yn yr ymgyrch tros annibyniaeth yn 2017 yn gobeithio y bydd ei hachos yn cael ei ollwng neu ei symud i Barcelona.

Rhoddodd Anna Gabriel dystiolaeth yn ystod y gwrandawiad ddoe (dydd Mercher, Medi 14), a hynny ar ôl iddi ddychwelyd i’r wlad ar ôl bod yn alltud yn y Swistir tan fis Gorffennaf.

Mae hi wedi’i chyhuddo o anufudd-dod mewn achos dan arweiniad y barnwr Pablo Llarena ym Madrid.

Siaradodd hi am ychydig yn llai nag awr yn ystod gwrandawiad emosiynol.

“Yr un yw fy egwyddorion o hyd,” meddai, cyn diolch i’r rhai oedd wedi ei chefnogi yn ystod ei safiad yn erbyn gormes sy’n “achosi poen”.

Treuliodd hi rai blynyddoedd yn y Swistir yn ennill Doethuriaeth.

“Ddylen ni fyth fod wedi gweld dyhead dilys pobol yn destun y farnwriaeth,” meddai, gan dynnu sylw at y rhai sy’n dal yn byw’n alltud neu wedi cael dirwy, bygythiadau ac erledigaeth.

Yn wahanol i wleidyddion eraill fu’n wynebu cyhuddiadau mwy difrifol fel annog terfysg, anufudd-dod yn unig oedd y cyhuddiad yn erbyn Anna Gabriel, felly doedd dim gwarant i’w harestio.