Bydd disgyblion ysgol, aelodau o’r Senedd Ieuenctid ac aelod o dîm diogelwch y Senedd yn cwrdd ag ymwelwyr brenhinol yn ystod ymweliad y Brenin Charles III â’r Senedd yfory (dydd Gwener Medi 16).

Bydd Shahzad Khan, sy’n aelod o’r tîm diogelwch, yn ymgymryd â rôl seremonïol cludwr y byrllysg.

Ef oedd cludwr y byrllysg yn agoriad swyddogol y chweched Senedd ym mis Hydref 2021, sef ymweliad olaf Brenhines Lloegr â Chymru.

Bydd aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru o bob cwr o’r wlad a disgyblion Ysgol Gymraeg Hamadryad yn Nhre-biwt yng Nghaerdydd hefyd ymhlith y bobol gyntaf i gwrdd â’r Brenin yn ystod ei ymweliad cyntaf â Chymru.

Mae Cyngor Caerdydd wedi rhybuddio y bydd ffyrdd ar gau ac y bydd tarfu ar barcio yn ystod yr ymweliad.

Bydd y Parti Brenhinol a gwesteion yn y Senedd yn clywed cerddoriaeth gan ddwy delynores, Cerys Rees a Nia Evans, o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Bydd y Brenin a’r Frenhines Gydweddog yn dod i’r Senedd oddeutu amser cinio i dderbyn cydymdeimladau gan Aelodau o’r Senedd.

‘Anrhydedd’

“Roedd yn anrhydedd mawr i mi gludo’r byrllysg pan ymwelodd y Frenhines â’r Senedd y llynedd ac roeddwn i’n methu â chredu’r peth pan ofynnwyd i mi ei wneud eto,” meddai Shahzad Khan, wrth drafod ei rôl yn gludwr y byrllysg.

“Rwy’n cofio’r cyfarfod yn fanwl – roedd yn deimlad anhygoel edrych arni’n dod i mewn i’r ystafell, ac fe allech chi deimlo bod rhywbeth wedi newid yn yr ystafell. Byddaf yn cadw’r atgof hwnnw yn fy nghalon am byth.

“Byddaf yn cludo’r byrllysg y tro hwn o dan amgylchiadau trist iawn, ond rydw i a fy nheulu yn falch o fy rôl ar yr adeg hanesyddol hon.

“Bydd yn teimlo’n wahanol iawn y tro hwn gan ei bod hi’n foment mor drist, ond mae hefyd yn fraint cael bod yn rhan o’r broses o drosglwyddo i deyrnasiad y Brenin newydd.”

Trefniadau eraill 

Dyma’r tro cyntaf i Charles III ymweld â Chymru ers dod yn Frenin Lloegr a throsglwyddo rôl Tywysog Cymru i’w fab William, yn dilyn marwolaeth Elizabeth II, Brenhines Lloegr.

Daw eu hymweliad ar Ddiwrnod Owain Glyndŵr, gydag ambell ddigwyddiad yng Nghymru i nodi’r diwrnod wedi’u canslo.

Cyn teithio i’r Senedd bydd y pâr yn ymweld ag Eglwys Gadeiriol Llandaf, Castell Caerdydd a’r Senedd wrth iddyn nhw ddod i Gymru ar ôl bod yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yr wythnos hon hefyd.

Yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, byddan nhw’n cael eu cyfarch gan Arglwydd Raglaw De Morgannwg ac yn cymryd rhan mewn gwasanaeth o ddiolchgarwch er cof am y Frenhines, gyda’r Deon yn arwain, ac anerchiadau a darlleniadau gan Archesgob Cymru Andy John a’r Prif Weinidog Mark Drakeford.

Y ffyrdd sydd ynghau

Mae rhai o ffyrdd y brifddinas eisoes ar gau er mwyn paratoi ar gyfer digwyddiadau dydd Gwener.

O 6yb tan 6yh ddydd Gwener (Medi 16), bydd y ffyrdd canlynol ar gau:

Heol y Gogledd rhwng Boulevard de Nantes a Ffordd y Brenin

Ffordd y Brenin o Heol y Dug i Heol y Gogledd

Heol y Dug ar ei hyd

Stryd y Castell ar ei hyd

Stryd Wood rhwng Heol y Porth a Heol Eglwys Fair

Heol Eglwys Fair o Heol y Tollty i’r Stryd Fawr

Y Stryd Fawr ar ei hyd

Stryd Wood

Heol y Porth

Heol Ddwyreiniol y Bont-faen rhwng Heol y Porth a Heol y Gadeirlan, ond bydd mynediad ar gael