Bydd ymgyrchwyr yn ymgasglu y tu allan i Gastell Caerdydd yfory (dydd Gwener, Medi 16) wrth i Frenin Lloegr ymweld â’r brifddinas.

Dyma’r tro cyntaf i Charles III ddod i Gymru ers dod yn Frenin Lloegr a throsglwyddo rôl Tywysog Cymru i’w fab William, yn dilyn marwolaeth Elizabeth II, Brenhines Lloegr.

Yn ystod eu hymweliad, bydd y pâr yn ymweld ag Eglwys Gadeiriol Llandaf, Castell Caerdydd a’r Senedd wrth iddyn nhw ddod i Gymru ar ôl bod yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yr wythnos hon hefyd.

Ond mae Bethan Sayed, cyn-Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, yn un o’r rhai sy’n galw ar bobol o bob rhan o Gymru i ymuno â phrotest dawel yn ystod ei ymweliad.

Byddan nhw’n ymgynnull y tu allan i Gastell Caerdydd am 1yp i sefyll gyda’i gilydd, gan ddal posteri gyda’r sloganau ‘Pam Brenhiniaeth? Hawl Dwyfol Brenhinoedd? Democratiaeth go iawn nawr’.

‘Rhaid inni drafod dyfodol Cymru’

Mae ymgyrchwyr am i’r cyhoedd yng Nghymru ystyried pam fod teulu sy’n teyrnasu yn anghenraid o lywodraeth dda, ac a yw dyfodol gwahanol, heb y Frenhiniaeth, yn bosibl.

Maen nhw hefyd yn galw ar arweinwyr Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd i ofyn i’r heddlu barchu’r hawl ddemocrataidd i brotestio.

Daw hyn yn dilyn y bygythiad i arestio Paul Powlesland, bargyfreithiwr o Lundain, pe bai’n ysgrifennu ‘Not my King’ ar ddarn o bapur gwyn yn Llundain yr wythnos hon.

“Cyn gynted ag y penderfynodd y Brenin Siarl III gyhoeddi y dylai’r Tywysog William ddod yn Dywysog Cymru, mor fuan ar ôl marwolaeth y Frenhines, roedd llawer ohonom yn teimlo rheidrwydd i ymateb,” meddai Bethan Sayed.

“Rhaid inni drafod dyfodol Cymru, a gofyn beth rydym eisiau ar gyfer creu Cymru fodern.

“Mae cefnogaeth i annibyniaeth ar gynnydd, mewn pythefnos bydd gorymdaith a rali dros annibyniaeth yn cael ei chynnal ar yr union strydoedd y bydd y brenin newydd yn teithio arnynt.

“Mae angen sgwrs Genedlaethol arnom ynghylch pam mae’r teulu Brenhinol yn cael eu geni i arwain drosom.

“Pam nad ydym yn addas i lywodraethu ein hunain?

“A ydym am gael Cymru yn rhydd o’r Frenhiniaeth? Os felly, sut olwg fydd ar hynny?

“Mae pobl yn dweud wrthym nad nawr yw’r amser i drafod y mater hwn, fodd bynnag, pan fydd y frenhiniaeth yn trosglwyddo  i Frenin newydd, nawr yw’r union amser i drafod y mater hwn.

“Mae’n ymwneud â thegwch, cydraddoldeb, a’r Gymru yr ydym am ei llunio ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.’”

Annheg ac anaddas

“Fel ein harweinydd Mark Drakeford, gweriniaethwyr ydyn ni,” meddai llefarydd ar ran Llafur dros Gymru Annibynnol, sy’n cefnogi’r weithred.

“Nawr yw’r amser gorau i drafod pa mor annheg yw’r frenhiniaeth a pha mor anaddas yw hi i Gymru’r 21ain Ganrif yr ydym i gyd yn ei hadeiladu.

“Cyn bo hir, bydd 67% o bobl Cymru yn byw mewn tlodi tanwydd tra bydd y teulu brenhinol yn etifeddu miliynau, yn ddi-dreth.

“Mae ein democratiaeth yn cael ei gwanhau gan eu presenoldeb ac felly, yn y pen draw, rydym yn pwyso am Weriniaeth annibynnol, sosialaidd i Gymru.”

‘Byw mewn cyflwr o lymder parhaol’

“Pam gymaint o hyrwyddo Pennaeth Gwladol anetholedig fel lles cyffredin?” meddai Adam Johannes, trefnydd protestiadau diweddar yng Nghaerdydd dros filiau ynni cynyddol.

“Ai felly rydym yn derbyn fel perchnogion naturiol, da a chywir anetholedig o gorfforaethau rhyngwladol, bancwyr anetholedig, y panoply cyfan o sefydliadau anetholedig ac anatebol sy’n rheoli ac yn llywodraethu dros ein bywydau bob dydd yn y gymdeithas heddiw?

“Ydyn ni eisiau byw mewn cyflwr o lymder parhaol gyda thrapiau annemocrataidd fel brenhiniaeth?

“Neu weriniaeth ddemocrataidd yn gwarantu’r hawl i bob dinesydd gael bwyd, tai ac incwm digonol.

“Gadewch i ni ddileu’r frenhiniaeth, ehangu democratiaeth, a defnyddio’r arian rydyn ni’n ei arbed i helpu pobl yn ystod yr argyfwng costau byw.”

Yn ôl Cerith Griffiths, Undebwr Llafur, “mae llawer wedi newid ers i’r Frenhines Elizabeth gael ei choroni dros 70 mlynedd yn ôl”.

“Yn arwyddocaol, mae gan Gymru ei Senedd ei hun erbyn hyn ac mae’n gallu pasio deddfwriaeth sy’n gwneud gwahaniaeth i’r rhai sy’n byw yng Nghymru,” meddai.

“Yn 2016, cafodd sawl agwedd ar y Ddeddf Undebau Llafur eu datgymhwyso yng Nghymru ond nawr mae llywodraeth San Steffan yn diystyru’r penderfyniadau a gymerwyd gan lywodraeth etholedig yng Nghymru.

“Os ydym wir yn gwerthfawrogi democratiaeth yna mae angen inni gael dadl am rôl y frenhiniaeth, ac a yw galluogi llywodraeth gwlad arall sy’n diystyru’r penderfyniadau democrataidd a wneir yma yng Nghymru yn wirioneddol addas ar gyfer yr 21ain ganrif.”