Mae pobol ifanc yn “byw mewn gobaith” o brynu tŷ yn sgil “prisiau hurt bost”, medd gŵr sydd wedi bod yn chwilio am dŷ i’w brynu gyda’i ddarpar wraig ers oddeutu blwyddyn.

Wrth siarad â golwg360, dywed Iwan Llŷr o’r Felinheli ei fod o a’i bartner yn barod i “ddechrau cam nesaf bywydau ni” ond nad yw’r farchnad dai yn caniatáu iddyn nhw wneud hynny.

Daw hyn wedi i brisiau tai ar gyfartaledd yng Nghymru weld y gyfradd dwf uchaf yn y Deyrnas Unedig, gyda naid o £14,000 ers mis Mawrth.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf a gafodd eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, neidiodd pris cyfartalog tai’r Deyrnas Unedig 15.5% yn y 12 mis hyd at ddiwedd Gorffennaf, y cynnydd mwyaf ers 19 mlynedd.

Ond roedd y cynnydd yn 17.6% yng Nghymru, gan ddod â phris tŷ i £220,000 ar gyfartaledd.

Roedd pris cyfartalog tŷ yn y Deyrnas Unedig yn £292,000 ym mis Gorffennaf 2022, sydd £39,000 yn uwch na’r adeg yma’r llynedd.

‘Prisiau hurt bost’

“Rydan ni’n ei gweld hi’n anodd, fwy na dim,” meddai Iwan Llŷr wrth golwg360.

“Mae tai fasa wedi bod yn rywbeth y basa ti’n gallu fforddio efallai ryw ddeng mlynedd yn ôl efo budget call, mor anodd i bobol ifanc sy’n trio arbed arian ei fforddio rŵan.

“Dydy o ddim yn wir i ddim ond ni, mae pawb sydd o’n cwmpas ni yn yr un sefyllfa, pawb yn cael trafferth dechrau bywyd mewn ffordd.

“Dydy o ddim yn hawdd, mae’n rhaid i ti jyst byw mewn gobaith bod yna dŷ am bris call yn dod i’r fei.

“Ond beth rwyt ti’n gweld lot ohono ydi tai sy’n llai nag ideal yn costio prisiau hurt bost.

“Mae o’n od, rwyt ti’n sbïo am dai ac mae yna wastad rywbeth o’i le neu waith sydd angen ei wneud.

“Mae hynny yn sicr yn wir yn ein sefyllfa ni oherwydd dydan ni ddim yn edrych am dŷ prosiect, ond mae’r rhan fwyaf o dai sydd o fewn budget rhywun oed ni yn dŷ sydd angen gwaith arno fo.

“Felly mewn ffordd, rwyt ti’n cael dy orfodi mewn i brosiect heb dy fod ti eisiau rhoi dy hun yn y sefyllfa yna.

“Peth arall sy’n ei gwneud hi’n anodd ydi dy fod di’n clywed lot o sôn am y posibilrwydd o’r farchnad yn troi ac os wyt ti’n dal ar am ychydig flynyddoedd bosib bydd y sefyllfa yn well.

“Ond gwirionedd y peth ydi’n bod ni’n chwilio i ddechrau cam nesaf bywydau ni rŵan hyn.

“A does yna ddim sicrwydd i’r datganiad yna o gwbl, a tasa chdi’n gwrando ar y bobol sy’n dweud pethau fel yna, mi allet ti fod yn yr un cwch tair blynedd lawr y lôn.

“Felly oni bai am arbed dy gyflog a gobeithio am y gorau, does yna ddim llawer yn fwy ti’n gallu ei wneud.

“Dw i ddim yn gwybod beth ydi’r opsiynau eraill i ddweud y gwir.”