Mae disgwyl cannoedd o bobol yn rali Nid yw Cymru ar Werth Cymdeithas yr Iaith yn Llangefni ddydd Sadwrn (Medi 17).
Bydd y rali’n cael ei chynnal tu allan i swyddfeydd Cyngor Ynys Môn am 1yp.
“Yn y rali byddwn yn lansio rhan nesaf ein hymgyrch,” meddai Jeff Smith o grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith.
“Mae’r Llywodraeth yn amlwg yn gwrando ar y miloedd o bobl sydd wedi dod i ralïau, ymateb i ymgynghoriadau ac ymgyrchu i sicrhau cartrefi i bobl leol yn eu cymunedau.”
Y cam nesaf
Ym mis Gorffennaf eleni, cafodd pecyn o fesurau newydd ei gyhoeddi i fynd i’r afael ag ail gartrefi.
Mae Cymdeithas yr Iaith nawr yn teimlo mai cam nesaf yr ymgyrch yw pwyso ar awdurdodau lleol i ddefnyddio’r grymoedd fydd ganddyn nhw yn llawn.
“Ond bydd rhaid i Awdurdodau Lleol weithredu yn syth er mwyn cael dylanwad ar y farchnad dai yn 2023,” meddai Jeff Smith.
Bydd yn rhaid i awdurdodau cynllunio lleol:
1) Cychwyn ymgynghoriad o fewn yr wythnosau nesaf ar lefel y premiwm treth cyngor ar ail gartrefi er mwyn codi’r lefel erbyn Ebrill nesaf, fel arall bydd yn rhaid aros am flwyddyn i wneud
2) Paratoi i basio cynnig “Erthygl 4” i sicrhau fod yn rhaid gwneud cais cynllunio er mwyn newid prif gartref yn ail gartref neu’n llety gwyliau. Mae’n fater brys gan fod y llywodraeth wedi addo cyflwyno is-ddeddfwriaeth sefydlu’r tri dosbarth cynllunio (prif gartref, ail gartref a llety gwyliau) yn yr hydref hwn
3) Mynd ati’n syth – fel sy wedi digwydd yng Ngwynedd – i ymchwilio a sefydlu achos cadarn dros gymryd y camau hyn i fynd i’r afael â’r broblem bod ail gartrefi a llety gwyliau’n broblem sy’n amddifadu pobl leol o gartrefi. Heb yr ymchwil, byddant yn agored i heriau cyfreithiol.
‘Llusgo traed’
“Byddwn yn datgan siom hefyd fod Llywodraeth Cymru’n llusgo ei thraed ar y mater,” meddai wedyn.
“Dydy’r Llywodraeth ddim wedi anfon unrhyw ganllawiau at Awdurdodau Lleol ar sut i weithredu’r grymoedd, na chyhoeddi cyllid i’w galluogi i fynd at yr holl waith fydd ei angen.
“Ar ben hynny, does dim sôn eto am yr is-ddeddfwriaeth i sefydlu dosbarthiadau cynllunio, sydd wedi ei addo ar gyfer yr hydref, a does dim penderfyniad hyd yn oed am bwy sydd i greu’r gofrestr o Lety Gwyliau.
“Byddwn yn galw ar y Llywodraeth i symud yn gynt ar y materion hyn gan fod cymunedau lleol yn colli eu stoc tai’n wythnosol.
Rydyn ni’n falch felly bod arweinydd Cyngor Môn a dau gynghorydd sir ac yn gallu bod gyda ni yn y rali i ymuno â’r alwad.”