Does dim cytundeb wedi’i gyhoeddi rhwng y pleidiau sydd o blaid annibyniaeth yng Nghatalwnia, yn dilyn trafodaethau rhyngddyn nhw neithiwr (nos Fercher, Medi 15) i ddatrys sawl anghydfod ynghylch y ffordd ymlaen.

Yn ystod y cyfarfod oedd wedi para dros chwech awr, fe wnaeth yr Arlywydd Pere Aragonès, y dirprwy arlywydd Jordi Puigneró, a gweinidog yr arlywyddiaeth Laura Vilagrà siarad ag arweinwyr pleidiau Esquerra Republicana a Junts per Catalunya.

Fe wnaeth Esquerra ofyn am ffyddlondeb gan y pleidiau eraill i’w helpu nhw i gyflawni eu nodau fel plaid wleidyddol, yn ogystal ag ymbil am osgoi ansefydlogi’r llywodraeth yn sgil y ffrae fewnol.

Fe wnaeth Junts gyhoeddi eu presenoldeb yn y cyfarfod, gan ddweud eu bod nhw wedi gwerthuso a dadansoddi’r cyd-destun gwleidyddol.

Dywedodd y llywodraeth a’r ddwy blaid eu bod nhw’n gobeithio dod i rywfaint o ddealltwriaeth er mwyn cael parhau i symud tuag at annibyniaeth.

Ond mae ERC yn dweud nad oes modd iddyn nhw weithio heb ddigon o ymddiriedaeth.

Fis Awst, dywedodd Junts nad oedd modd iddyn nhw barhau i gydweithio fel ag yr oedd y sefyllfa, ac fe gynigion nhw bleidlais ar ddyfodol y pwyllgor gwaith.

Mae’r pleidiau’n sylweddoli na fydd ateb cyflym ac y bydd angen mwy o drafodaethau, ond maen nhw’n gobeithio parhau i ddod i ddealltwriaeth sylfaenol ar y ffordd ymlaen iddyn nhw i gyd.

Mae plaid CUP wedi manteisio ar y cyfarfod i dynnu sylw at yr anghydfod rhwng y pleidiau o blaid annibyniaeth, tra bod plaid Ciudadanos yn dweud nad ydyn nhw’n disgwyl i’r llywodraeth gael ei dymchwel gan y sefyllfa.

Anghydfod

Dechreuodd yr anghydfod diweddaraf pan benderfynodd Pere Aragonès na fyddai’n mynd i rali ar Ddiwrnod Cenedlaethol Catalwnia, gan amau cymhelliant gwleidyddol y digwyddiad.

Dywedodd ei fod yn ddigwyddiad “yn erbyn pleidiau ac nid yn erbyn Sbaen”.

Mae Dolors Feliu, llywydd Assemblea Nacional Catalana, yn galw am “annibyniaeth neu etholiadau”, ac mae hi wedi mynd mor bell ag awgrymu y gellid sefydlu plaid newydd er mwyn gwireddu’r uchelgais.

Mae’r ANC am weld annibyniaeth yn dod cyn 2024.